Cartref|
English|
Chwiliwch|
Safle
Graffegol
Rydym am iddi fod mor rhwydd ag sy'n bosibl i chi gysylltu â ni, felly rydym wedi creu nifer o ffurflenni ar-lein sy'n mynd yn syth at y bobl iawn, a fydd yn fodd i ni ateb eich ymholiad mor fuan ag sy'n bosibl.
Mae'r adran hon yn fodd i chi roi gwybod am broblemau, gwneud ymholiadau cyffredinol, rhoi atborth ynglŷn â gwasanaethau, bwcio, ymuno â rhestri postio, dod o hyd i'ch cyfleuster agosaf, cael gwybodaeth am y cyrsiau diweddaraf y mae Sir Benfro yn Dysgu yn eu cynnig ... hyn oll trwy roi clic ar fotwm.
CartrefiDewisedig@SirBenfro yw'r enw ar gynllun a gyflwynodd Cymdeithas Tai Cantref, Cymdeithas Tai Dewi Sant, Tai Sir Benfro a Chyngor Sir Penfro.
Gyda CartrefiDewisedig@SirBenfro gallwch fynd ati i chwilio am gartref o'ch dewis. Gallwch weld yn union pa gartrefi sydd ar gael.
Ar Directgov, sef gwefan cyfleusterau ar-lein y Llywodraeth, mae dolenni â'r gwasanaethau canlynol. Mae pob un o'r dolenni hyn yn arwain at wefannau allanol y llywodraeth.
Gwasanaethau Pasport Ar-lein (Mewn ffenest
newydd)
Gwasanaeth pasport ar-lein y DU. Ar y wefan hon mae'r holl wybodaeth am basportau'r DU. Mae arni hefyd
wybodaeth am wneud cais ac adnewyddu, yn ogystal â dewisiadau gwneud cais ar-lein.
Profion gyrru neu theori gyrru (Mewn ffenest newydd)
Yr asiantaeth safonau gyrru sy'n ymdrin â'r holl brofion gyrru yn y DU. Ar y safle hwn gallwch drefnu ac
archebu prawf Gyrru neu theori, a chymryd ffug brawf ar-lein hefyd. I drefnu ac archebu prawf ar-lein byddwch yn
gorfod cael manylion trwydded dros dro yr ymgeisydd a cherdyn debyd neu gredyd hefyd.
Prynu Trwydded Teledu (Mewn ffenest newydd)
Gwybodaeth am ddewisiadau trwyddedu teledu a dewisiadau prisiau rhad.
Gwasanaeth ar-lein y DVLA (Mewn
ffenest newydd)
Ydych chi'n gorfod adnewyddu treth eich cerbyd? Neu efallai eich bod am ddefnyddio Hysbysiad Oddi-Ar-y-Ffordd
Statudol (HOS) i hysbysu'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ynghylch cerbyd oddi-ar-y-ffordd.
Mae'r holl wybodaeth a'r gwasanaethau ar-lein i'w cael yno.
Gofal Plant Lleol (Mewn ffenest newydd)
Cyfleuster chwilio lleoledig ar gyfer dod o hyd i ofal plant addas yn eich ardal.
Cael Trwydded Bysgota (Mewn ffenest newydd)
Prynu trwydded ar gyfer gwialen bysgota.
Rheolau r
Ffordd Fawr Ar-Lein (Mewn ffenest newydd)
Hanfodol ar gyfer pawb sy'n defnyddio'r ffordd, yn cynnwys cerddwyr, marchogion, gyrwyr beiciau modur,
seiclwyr a modurwyr.
Gwneud cwyn yn erbyn cyngor neu awdurdod lleol (Mewn
ffenest newydd)
Gwneud cwyn ar-lein i'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol, am gynghorau ac awdurdodau lleol.
Adennill Dyledion
(Mewn ffenest newydd)
Mae Cyfleuster Ar-lein Gwasanaeth Llys Ei Mawrhydi ar gyfer hawlwyr a diffynyddion, 'Money Claim Online
(MCOL)', yn caniatáu i fusnesau a defnyddwyr gyflwyno hawliadau ar-lein er mwyn adennill arian sy'n
ddyledus iddynt.
Bondiau Premiwm (Mewn
ffenest newydd)
Ar safle'r Cynilion a'r Buddsoddiant Cenedlaethol gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais ar gyfer prynu
Bondiau Premiwm.
Cofrestru i bleidleisio ar-lein
Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein gyda'r gwasanaeth "aboutmyvote" gan y Comisiwn
Etholiadol.
Rhoi Gwybod i MI5 Ar-lein am
Weithgareddau Amheus (Mewn ffenest newydd)
Rydym ni'n gyfrifol am warchod diogeledd y wladwriaeth rhag bygythiadau, fel terfysgaeth. Os gwyddoch chi
rywbeth am fygythiad i ddiogeledd y wladwriaeth, fe hoffem glywed gennych.
Chwilio am Benodiadau Cyhoeddus
Ar-lein (Mewn ffenest newydd)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n penodi unigolion i ymuno â chyrff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad, Cyrff
Gweithredol GIG Cymru ac eraill. Gweinidogion fydd yn penodi'r unigolion hyn ac mae'r swyddi'n
ddigyflog ac yn rhan amser gan mwyaf. Caiff yr holl unigolion eu penodi yn ôl eu teilyngdod.
Cyngor busnes (Mewn ffenest
newydd)
Cyngor ar gynllunio busnes.
Credydau treth ar-lein (Mewn ffenest
newydd)
Gwybodaeth am gredydau treth. Ar y wefan mae'r manylion hyn; pwy sy'n gymwys i gael credydau treth, faint
y gallech ddisgwyl ei gael a sut y gallwch hawlio ar-lein.
Hunanasesiad Trethi ar-lein (Mewn ffenest
newydd)
Gallwch lenwi ac anfon yn ôl eich dychwelebau trethi, dros y Rhyngrwyd.
Transport Direct (Mewn ffenest
newydd)
Ar y safle hwn mae cronfa ddata llwybreiddiwr chwiliadwy ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus. Mae arno hefyd
wybodaeth fyw am deithio ac mae'n ymgynnull yr holl wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ac ar ffyrdd er mwyn
ichi gael dewisiadau pan fyddwch yn cynllunio teithiau mewn unrhyw le ym Mhrydain. Gallwch gynllunio Taith
ar-lein.
Nod Tradesmen Trust (Mewn ffenest newydd)
Gallwch ddefnyddio'r safle hwn i chwilio am sefydliadau masnach cydnabyddedig yn y DU
Worktrain - Chwilio am Swyddi (Mewn ffenest
newydd)
Ydych chi'n chwilio am swydd, hyfforddiant neu wybodaeth am yrfaoedd? Yna beth am fwrw golwg ar gyfleuster
chwilio ar-lein gwefan Worktrain.
Busnes
Economi Sir Benfro
Yr Uned Ewropeaidd
Coed Sir Benfro
Eiddo Ar Werth/Ar Osod
Cymuned
Llyfrgelloedd
Y Parth
50 Plws
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Addysg
Ysgolion
Addysgu Oedolion
Ieuenctid Sir Benfro
Amgylchedd
Cynllunio
Gwastraff ac Ailgylchu
Safonau Masnach
Trwyddedu
Diogelwch y Cyhoedd
Tai
Gwneud cais am dy
Tenantiaid Cyngor a Thai Cyngor
Cefnogi Pobl
Gwaith
Gwaith ar Gael
Gwaith yn yr Arfaeth
Twristiaeth
Ymwelwch a Sir Benfro
Hamdden
Chwaraeon Sir Benfro
Canolfannau Croeso
Gofal Cymdeithasol
Gwasanaethau Plant
Gwasanaethau Oedolion
Cludiant
Timetables
Gwylio Ffyrdd
Cludiant Cymunedol
Eich Cyngor
Eich Cyngor a'ch Cynghorwyr chi
Treth y Cyngor
Gwasanaethu a Chynnwys ein Cwsmeriaid
Dogfennau Cyngor
Gwasanaethau A-Y|
Busnes|
Cymuned|
Addysg|
Yr Amgylchedd|
Tai|
Swyddi|
Twristiaeth a
Hamdden|
Gofal
Cymdeithasol|
Cludiant|
Eich Cyngor|