Cyhoeddwyd strategaeth tair blynedd gyntaf Her Iechyd Sir Benfro ym mis Ebrill 2005.
Edrychwch ar Yr hyn yr ydym wedi i gyflawni (Mewn ffenest newydd)
Roedd gan y strategaeth bedair thema allweddol: dewisiadau bywyd iach; mynediad i wasanaethau a chyfleoedd; gostwng anghydraddoldebau a darparu mwy o wybodaeth; rheoli cyfathrebu a pherfformiad.
Yn ogystal, roedd pedair thema trawsdoriadol: cefnogi pobl i reoli eu lles personol; darparu gwasanaethau ymatebol i anghenion cwsmeriaid; annog asiantaethau i gydweithio er mwyn darparu gwell gwasanaethau, a darparu gofal yn y lleoliadau mwyaf priodol.
Datblygwyd y strategaeth gan Gyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro a Derwen (Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda bellach), y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, Awdurdod Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro a'r Cyngor Iechyd Cymunedol.
Mewn ymateb i flaenoriaethau newidiol ym maes iechyd a lles, ac wrth ddatblygu gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni fel rhan o'r strategaeth gyntaf, mae ein partneriaid, mewn ymgynghoriaeth ag ystod eang o bobl a sefydliadau lleol, bellach wedi datblygu ail strategaeth tair blynedd.
Strategaeth Her Iechyd Sir Benfro 2008 - 2011
Blaenoriaethau'r strategaeth yw:
Darparu gwasanaeth mewn partneriaeth
Cefnogi pobl i fod mor iach ag sy'n bosibl
Rydym wedi datblygu cynlluniau gweithredol sy'n nodi sut bydd elfennau allweddol y strategaeth yn cael eu darparu a'u mesur.
Yn ogystal, rydym wedi nodi nifer o faterion trawsdoriadol a fydd yn ategu gweithrediad pob cynllun gweithredol:
Mae copi cyflawn o'r strategaeth, y cynlluniau gweithredol cysylltiedig a'r dogfennau
asesu anghenion, ar gael o
Y Strategaeth Iechyd Gofal Cymdeithasol a Lles 2008 2011 (lawrlwytho 247k) & Drafft Cynlluniau Gweithredu
Adroddiad Asesiad Anghenion (lawrlwytho 1669k)
Pam Owen
Rheolwr Iechyd a Lles
Polisi a Chynllunio Corfforaethol
Cyngor Sir Benfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro SA61 1TP
01437 776612
Pam.Owen@Pembrokeshire.gov.uk
ID: 10090 Adolygwyd: 25/6/2010