Cyngor Sir Penfro

Dolenni Allanol

Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu

 Waste & Recycling

Mynd i’r afael â gwastraff

Beth yw gwastraff? Yn ôl y geiriadur, mae iddo sawl ystyr ond mae pob un ohonynt yn golygu’r un peth; rhywbeth nad oes arnom ei angen yw gwastraff. Mae’n ddiddefnydd, ac felly rydym yn penderfynu nad oes unrhyw werth iddo.

Byddwn yn cynhyrchu hyd at 60,000 tunnell o wastraff cartref bob blwyddyn yn Sir Benfro a rhaid ymdrin â phob gronyn ohono. O bysen neu ddwy a adawyd ar blât hyd at sgrîn deledu fawr, mae popeth yn gorfod mynd i rywle.

Bwriad y llawlyfr hwn yw dangos ichi ba ddewisiadau sydd ar gael.

Newid arfer

Nid yw claddu ein gwastraff yn ddewis da ar gyfer ein hamgylchedd. Yn wir, dyna’r dewis gwaethaf posibl am fod y gwastraff yn pydru ac yn cynhyrchu methan, sef nwy sy’n cyfrannu at gynhesu byd-eang a thrwytholch, sef hylif a allai fod yn niweidiol. Ar ben hynny rydym yn brin o fannau tirlenwi, ac felly fe welwch y dylem feddwl llawer rhagor am y gwastraff a gynhyrchwn.

Mae cael gwared ag ef yn costio ceiniog neu ddwy hefyd!

Rydym ni’n gorfod talu tâl cael gwared er mwyn defnyddio safle tirlenwi am bob tunnell a gludwn yno, ac yn gorfod talu treth tirlenwi sy’n cynyddu bob blwyddyn. Ar ben hyn i gyd rydym yn gorfod cyflawni targedau dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi ac os na wnawn eu cyflawni fe gawn ddirwy sylweddol iawn.

A dyna pam y mae hi’n bwysig inni newid ein harferion gwastraff. Bydd hyn yn ein cynorthwyo i arbed yr amgylchedd yn ogystal ag arbed arian i ninnau!

RHIFAU FFÔN PWYSIG:

Ar gyfer yr holl ymholiadau ynghylch casglu bagiau du ac oren; casglu gwastraff swmpus o gartrefi; gwastraff peryglus o gartrefi a’r holl dipio slei bach sy’n digwydd, ffoniwch y ganolfan gyswllt ar 01437 764551.

Er mwyn ymholi a yw contractwr sy’n gweithio yn eich cartref, wedi’i gofrestru i gludo gwastraff yna cofiwch ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd: Ymholiadau cyffredinol: 08708 506 506 Llinell frys ynghylch digwyddiadau: 0800 807060





Rhannu'r Tudalen Hon


ID: 15934 Adolygwyd: 6/8/2009