Mae gweithwyr addysg yn rhannu cyfrifoldeb am sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag niwed.
Mae pob corff cyhoeddus a gwirfoddol yn Sir Benfro yn ymrwymo i amddiffyn lles plant a phobl ifanc ac mae gweithwyr y cyrff hyn yn ymwybodol o'u dyletswyddau i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn. Darperir hyfforddiant rheolaidd ar gyfer athrawon a llywodraethwyr ysgolion sy'n gyfrifol am amddiffyn plant.
Mae'n rhaid i weithwyr addysg ddilyn Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan sydd wedi eu cadarnhau'n lleol gan Fwrdd Lleol Amddiffyn Plant Sir Benfro. Mae'r gweithdrefnau hyn i'w dilyn os oes amheuaeth bod plentyn mewn perygl o gael ei gam-drin, neu os ceir gwybodaeth ynglyn ag unrhyw oedolyn yn ymwneud â cham-drin plentyn. Mae copïau ar gael ym mhob ysgol.
Os ydych yn amau bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl:
Dylid gwneud atgyfeiriadau yn gyntaf ar y ffôn i Wasanaethau Gofal Plant y Cyngor Sir neu i'r Heddlu heb oedi. Mae gan y ddau wasanaeth 24 awr. Byddant yn gwrando arnoch o ddifrif pob tro a gallwch ddisgwyl y bydd ymchwiliad llawn i'ch pryderon. Bydd atgyfeiriadau ffurfiol yn cael eu cadarnhau'n ysgrifenedig yn ddiweddarach yn y drefn.
Os bydd plentyn y rhoi gwybod i chi ei bod hwy neu blentyn neu berson ifanc arall yn cael ei gam-drin:
Dyma ddiffiniadau o fathau o gam-drin:
Emosiynol: Cam-drin plentyn yn emosiynol yn barhaus mewn modd sy'n amharu'n ddifrifol a pharhaol ar ddatblygiad emosiynol ac ymddygiadol y plentyn.
Esgeuluso: Esgeuluso plentyn yn barhaus neu'n ddifrifol neu fethu ag amddiffyn y plentyn rhag bod mewn unrhyw fath o berygl neu fethu'n eithafol â chyflawni agweddau pwysig ar ofal, a thrwy hynny amharu'n sylweddol ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn.
Corfforol: Taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi, sgaldio, boddi, mygu neu wneud rhyw niwed corfforol arall i blentyn.
Rhywiol: Gorfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, pa un a yw'r plentyn yn ymwybodol ai peidio o'r hyn sy'n digwydd, yn cynnwys
(Ffynhonnell: Gweithio gyda'n gilydd i Ddiogelu Plant o dan Ddeddf Plant 1989 a Deddf Plant 2004)
Dyma rifau ffôn pwysig:
Swyddog Dyletswydd Gofal Plant 01437 776322 neu 01437 776325
Tîm mas o oriau Gofal Cymdeithasol 08708 509 508
Yr Heddlu 0845 330 2000 neu 999 mewn argyfwng
NSPCC Cymru 0808 800 5000
Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan (Mewn ffenest newydd)
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Kathy Young-Powell
County Hall
Haverfordwest
Pembrokeshire
SA61 1TP
Ffôn: 01437 775499
E-bost: kathy.youngpowell@pembrokeshire.gov.uk
ID: 7647 Adolygwyd: 14/7/2010