Pwrpas y Rhaglen yw:
Gobeithiwn y cewch yr amser i edrych trwy raglen hyfforddi'r tymor hwn, a dewis mynychu cwrs. Gobeithiwn y bydd yr ystadegau a'r sylwadau am hyfforddiant y llynedd efallai'n eich annog!
Os nad oes unrhyw hyfforddiant sy'n addas ar gyfer eich anghenion chi, neu anghenion eich Corff Llywodraethol, dylech gysylltu â ni i drafod eich gofynion.
Rhowch wybod i ni os bwriadwch ddod ar gwrs.
Sut i wneud cais am gyrsiau
Gall llywodraethwyr unigol wneud cais drwy ddefnyddio'r ffurflen gais amgaeedig gyda'r rhaglen hon. Gallwch hefyd wneud cais arlein trwy ddefnyddio'r ffurflen isod.
Er mwyn caniatáu i'r cyflwynwyr baratoi digon o ddeunyddiau, peidiwch â mynychu cwrs heb gysylltu â ni yn gyntaf, os gwelwch yn dda. Dyma'r unig ffordd y gallwn ni gysylltu â chi os ydym ni'n gorfod peidio â chynnal cwrs am unrhyw reswm.
Gellir trefnu hyfforddiant ar gyfer cyrff llywodraethol cyfan trwy gysylltu â ni yn y Gwasanaethau Cynnal Llywodraethwyr fel y gallwn drafod eich gofynion penodol. Ni chodir tâl am unrhyw gwrs.
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael ar ddechrau pob cwrs hyfforddiant, oni bai y nodir yn wahanol.
Dewiswch Categori:
Hyfforddiant i Gyrff Llywodraethol Cyfan
Gweler Hefyd :
Sylwadau Llywodraethwyr ar gyfer yr Haf 2010
ID: 7211 Adolygwyd: 2/9/2010