Cartref|
English|
Chwiliwch|
Safle Graffegol|
Beth am ichi fynd ati i gael gwybod pa gwrs sy'n addas ar eich cyfer chi trwy fwrw golwg ar y disgrifwyr lefelau isod. Os hoffech gael cyngor a chyfarwyddyd neu ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r cyrsiau, yna bydd ein tîm TG Cymunedol yn falch iawn o'ch helpu chi. Gallwch eu ffonio ar 01834 861712.
Mae nifer fawr o'n cyrsiau yn arwain at gymhwyster newydd mewn ITQ sy'n ffordd hyblyg o feithrin sgiliau newydd mewn cyfrifiadura a chael cymhwyster gwerthfawr ar yr un pryd, ni waeth beth yr ydych am ei wneud - gwella eich gobeithion o gael swydd o bosibl neu sicrhau y byddwch chi'n teimlo'n fwy hyderus wrth ddefnyddio cyfrifiadur yn eich amser hamdden.
Os gwyddoch chi rywfaint am TG yn barod, yna byddwn yn cymryd i ystyriaeth unrhyw gymwysterau cyndnabyddedig sydd gennych eisoes er mwyn ichi beidio â gorfod trin a thrafod pynciau yr ydych yn eu deall yn barod.
Cyrsiau Lefel Rhagarweiniol fel Camau Cyntaf - mae'r rhain yn berffaith ar gyfer y dechreuwr pur neu beth am ichi roi cynnig ar yr amrywiaeth o gyrsiau meithrin sgiliau sydd gennym os ydych chi'n dymuno ehangu rhagor ar eich sgiliau.
Cyrsiau Lefel 1 - mae'r rhain yn addas i'r bobl hynny sydd wedi bod ar gwrs lefel rhagarweiniol neu sy'n gwybod beth yw hanfodion cyfrifiaduron. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o bynciau - o brosesu geiriau, taenlenni, e-bost a'r rhyngrwyd (sgiliau ymarferol) hyd at faterion enhangach fel golygu delweddau a llunio gwe-dudalen (sgiliau creadigol). Gallwch ennill unedau a fydd yn cyfrannu at ddyfarniad, tystysgrif neu ddiploma neu gallwch arbenigo yn eich dewis bynciau.
Dyma'r cymwysterau Lefel 1 sydd ar gael: ITQ mewn Sgiliau Defnyddwyr TG, ECDL (Hanfodion) a Phrosesu Testun (Gweithwyr Proffesiynol ym Maes Bsuiness)
Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau arbenigol mewn Hanes Teulu, Cyfrifyddu a Chyflogres SAGE, Elfennau Photoshop a Dylunio Gwefannau - Lefel 1.
Cyrsiau Lefel 2 - mae'r rhain yn addas ar gyfer y bobl hynny sydd wedi bod ar gwrs Lefel 1 neu sy'n ddefnyddwyr rheolaidd yn y gweithle. Cewch ddysgu uwch sgiliau fel postgyfuno, sut i lunio taflenni triphlyg neu lunio gwefan. Gallwch ennill unedau er mwyn iddynt gyfrannu at ddyfarniad, tystysgrif neu ddiploma neu gallwch arbenigo yn eich dewis bynciau.
Dyma'r cymwysterau Lefel 2 sydd ar gael: ITQ mewn Sgiliau Defnyddwyr TG, ECDL (Ychwanegol) a Phrosesu Testun (Gweithwyr Profesiynol ym Maes Business)
Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau arbenigol mewn Elfennau Photoshop a Dylunio Gwefannau - Lefel 2
Cyrsiau Lefel 3 - ar gyfer y bobl sydd wedi uwchddatblygu eu sgiliau defnyddio cyfrifiaduron, y mae'r cyrsiau hyn. Gallwch arbenigo yn eich dewis bwnc fel defnyddio prif ddogfennau a llunio tudalennu cynnwys mewn ECDL, Uwch Brosesu Geiriau, neu ddefnyddio uwch fformiwlâu ac ymgysylltu Taenlenni. Dyma'r cymwysterau Lefel 3 sydd ar gael: ECDL (Arbenigol) a Phrosesu Testun (Gweithwyr Profesiynol ym Maes Business)
Rydym hefyd cynnig cyrsiau arbenigol mewn Photoshop CS3 a Dylunio Gwefannau - Lefel 3
Addysg
Ysgolion
Addysgu Oedolion
Dyddiadau Tymhorau a Gwyliau Ysgol
Gwasanaethau Derbyniadau i Ysgolion
Addysg 14-19
Lles disgyblion
Gwasanaethau Cynhwysiad a AAA
Llywodraethwyr Ysgol
Cefnogaeth Ariannol
Polisïau, Cynlluniau a Cyhoeddiadau
Gwasanaeth Cerddoriaeth
Ieuenctid Sir Benfro
CYPP
Gwasanaethau A-Y|
Eich Cyngor|
Twristiaeth a Hamdden|
Cludiant|
Addysg|
Busnes|
Yr Amgylchedd|
Tai|
Gofal Cymdeithasol|
Cymuned|
Swyddi|