Rydym wedi ymrwymo i hybu cyfleoedd dysgu i bob preswyliwr, o blantos bach hyd at blant ysgol, o
oedolion ifanc hyd at bobl hŷn. Ein nod yw annog pobl Sir Benfro i gyflawni hyd eithaf eu
gallu.
Yn Sir Benfro mae 74 ysgol sy'n gwasanaethu oddeutu 10,150 o ddisgyblion oedran cynradd ac oddeutu 8,500 o ddisgyblion uwchradd, gan gynnwys mannau mewn adrannau meithrin i'n plantos bach a chweched dosbarth i ddisgyblion hŷn. Rydym yn cyflogi oddeutu 3,000 o bobl i ddarparu gwasanaeth addysg y Sir.
Mae ein tīm dysgu i oedolion Sir Benfro yn Dysgu yn darparu oddeutu 170 o wahanol gyrsiau, o Ffrangeg i astudiaethau cyfrifiadur mewn mwy na 70 lleoliad ledled y Sir. Rydym yn darparu ar gyfer myfyrwyr o bob oedran a gallu, ar gyfer dechreuwyr sy'n rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu'r bobl hynny sydd am wella eu sgiliau.
Enw ein tīm gwasanaeth ieuenctid yw "Ieuenctid Sir Benfro" ac mae e'n cynnal rhwydwaith cefnogi ledled y Sir sy'n cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu eu gwybodaeth a sgiliau wrth iddynt gyrraedd eu llawn dwf.
Cafodd y tudalennau gwe hyn eu datblygu i'ch cynorthwyo chi i wneud dewisiadau gwybodus am addysg a
dysgu yn Sir Benfro. Byddwch cystal ā rhoi gwybod inni os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth yr
ydych yn chwilio amdani neu os gallwn wella ein tudalennau mewn unrhyw fodd Ffurflen Adborth.
ID: 7963 Adolygwyd: 7/6/2010