Amddiffyn eich Cartref
- Diogelu eich Cartref
- Diogelwch rhag tân
- Rhifau ffôn mewn argyfwng
- Cyflenwyr cyfleustodau
- Eich Ffôn
- Cynnal a Chadw ac Atgyweirio
- Addasiadau i'ch cartref
- Garddio
Diogelu eich cartref rhag lladron
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cau pob ffenestr a drws cyn gadael y tŷ
- Os ydych yn yr ardd neu i fyny'r grisiau, gwnewch yn siŵr bod drysau'r llawr gwaelod wedi eu cloi a bod gennych allwedd gyda chi er mwyn mynd i mewn ac allan ar frys
- Gosodwch gloeon ar y ffenestri a chadwch yr allweddi mewn man diogel
- Cadwch unrhyw offer ac ysgolion yn ddiogel dan glo
- Gosodwch eich larwm lladron a'ch sticer gwarchod cymdogaeth mewn lle amlwg
- Gosodwch arwydd i rybuddio ymwelwyr os oes gennych gi oherwydd bydd hyn yn helpu i gadw lladron draw
- Cadwch eitemau gwerthfawr o'r golwg
- Peidiwch â gadael allweddi o dan y mat neu ar linyn drwy'r blwch llythyrau. Mae lladron yn disgwyl hyn.
Cysylltu â'r heddlu
Ffoniwch 101 mewn achosion nad ydynt yn rhai brys.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng
Gwiriad cartref
Mae gwasanaeth Bobi'r Fan yn cynnig cyngor i bobl hŷn ynglŷn â diogelwch cartrefi a gall ddarparu dyfeisiau syml fel cadwyni drws a thyllau ysbio i helpu i atal lladrad ac ailosod cloeon ar ôl lladrad. Ffôn 01267 226468
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru'n darparu cyngor ynglŷn â diogelwch rhag tân yn eich cartref a gall gyflenwi a gosod larwm mwg yn rhad ac am ddim. Gall hefyd brofi eich blanced drydan i chi. Ffoniwch 0800 169 1234 neu ewch i'w wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (Mewn ffenest newydd)
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng
Cyngor Sir Penfro 01437 764551
Rhif argyfwng y tu allan i oriau'r Cyngor 0845 6015522
Llinell Argyfwng Dŵr
Gwybodaeth am wasanaethau dŵr ac achosion brys
0800 052 0130 (24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos)
Argyfwng Nwy
Rhif Cyswllt Argyfwng Nwy: 0800 111 999
Argyfwng Trydan
Western Power Distribution - De a Gorllewin Cymru: 0800 052 0400
Llinell Llifogydd
0845 988 1188 (gwasanaeth 24 awr) neu Typetalk 0845 602 6340
Cymorth ar y we
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (Mewn ffenest newydd)
www.preparingforemergencies.co.uk
Gwefannau Llywodraeth DU (Mewn ffenest newydd)
Gallwch gysylltu â'r uned Cynllunio rhag Argyfyngau ar 01437 775586 neu gallwch anfon ebost i emergency.planning.unit@pembrokeshire.gov.uk
Mae gan Uned Cynllunio rhag Argyfyngau'r Cyngor hefyd daflen ‘Yn Barod i Ymateb'.
Cwsmeriaid trydan a nwy SWALEC
Mae Careline yn wasanaeth blaenoriaeth di-dâl. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud er mwyn cael unrhyw wasanaethau sy'n cael eu darparu gan Careline, yw ymuno â'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth.
Ffôn 0800 622 838 Ffôn testun: 0800 622 839
Nwy Prydain
Mae'r tîm Gofal Ynni yn y Cartref (Mewn ffenest newydd) yn darparu gwasanaethau hanfodol i gwsmeriaid bregus. Dyma'r rhifau er mwyn ymuno â Gofal Ynni Cartref - Ffôn 0800 072 8625 neu Ffôn Testun 18001 0845 955 5202
Mae gan British Telecom (BT) gynllun di-dâl er mwyn rhoi blaenoriaeth i bobl fregus sy'n methu â gadael y tŷ oherwydd salwch neu anabledd ac sy'n dibynnu ar y ffôn fel ffordd hanfodol o gysylltu â rhywun arall. Os oes gennych salwch hirdymor cronig neu anabledd difrifol gallwch wneud cais. Mae BT yn gofyn i chi gael ymarferydd meddygol i gefnogi eich cais.
Sut i roi gwybod am broblem ar-lein - ewch i http://bt.com dewiswch 'At home' a chliciwch ar 'Report and Track faults'. Neu ffoniwch 0800 800 151 (ffôn testun 18001 0800 800 151) yn rhad ac am ddim, 24 awr y diwrnod.
Llinell Gyngor British Telecom (BT) Gofynnwch am y Tîm Anabledd ac am wybodaeth ynglŷn â ffonau sydd wedi cael eu haddasu'n benodol. Mae gan BT lyfryn rhad ac am ddim am y cyfarpar a'r gwasanaethau sydd ar gael. Ffoniwch 195 i weld a ydych yn gymwys i gael gwasanaeth ymholiadau cyfarwyddiadur (directory enquiries) am ddim. Rhadffon 0800 800 150
Gwaith Atgyweirio Mawr
Mae angen i chi wneud yn siŵr bod eich cartref yn cael ei gynnal a'i gadw'n briodol, er mwyn iddo fod yn ddiogel i chi fyw ynddo. Os oes angen gwaith atgyweirio, gallwch gael cyngor a chymorth.
Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, yn oedrannus, yn 65 oed a throsodd a/neu yn anabl gallwch:
- Wneud cais i Gyngor Sir Penfro am grant atgyweirio Ffôn 01437 764551
- Cael cyngor gan gwmni Gofal a Thrwsio Sir Benfro Ffôn 01437 766717. Gallant ddweud wrthych a ydych yn gymwys i gael grant i helpu i dalu am y gwaith, ac os ydych, sut i wneud cais amdano. Gallant argymell contractwr adeiladu dibynadwy a bydd y Cyngor yn archwilio'r gwaith a gwblhawyd â chymorth grant er mwyn sicrhau bod y safon yn dda
- Os ydych yn denant dylech gysylltu â'ch landlord
PEIDIWCH BYTH â derbyn unrhyw gynnig i wneud gwaith atgyweirio to neu ddreif sy'n cael ei roi i chi ar stepen y drws. Ewch at gwmni dibynadwy bob amser.
Mân Waith Atgyweirio
Mae yna rai cynlluniau ar gyfer mân waith atgyweirio a chynnal a chadw yn y cartref gan weithwyr lleol.
Age Concern Sir Benfro Ffôn 01437 769972
Gofal a Thrwsio Sir Benfro
Tŷ Meyler, St. Thomas Green, Hwlffordd, SA61 1QP. Ffôn (01437) 766717
Ffacs: (01437) 767327
Os ydych yn cael anhawster i ymdopi yn eich tŷ neu eich fflat presennol, efallai y byddech yn hoffi ystyried ei addasu ar gyfer eich anghenion. Ffoniwch Gyngor Sir Penfro ar 01437 764551. Dyma'r cam cyntaf er mwyn cael asesiad priodol o'ch anghenion.
Gall addasiadau amrywio o osod canllawiau a rampiau i adeiladu cawod y gallwch gerdded i mewn iddi, addasu uchder unedau cegin a lledu drysau er mwyn i gadair olwyn allu mynd drwodd yn hawdd.
Gall Cyngor Sir Penfro ddarparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl i dalu, neu i helpu i dalu, am addasiadau. Mae grantiau'n seiliedig ar brawf modd a rhaid i bobl hefyd fodloni'r meini prawf meddygol sy'n berthnasol. Mae'r rhain yn cynnwys asesiad therapi galwedigaethol i gefnogi'r cais am grant. Gallwch gael gwybodaeth a chyngor am y grantiau hyn gan y Cyngor. Gall staff Gofal a Thrwsio Sir Benfro eich helpu â'ch cais. Os nad ydych yn gymwys i gael grant, gall staff Gofal a Thrwsio Sir Benfro awgrymu ffyrdd eraill o ariannu'r gwaith.
Gall cadw'r ardd yn daclus achosi pryder i rai pobl. I gael cyngor ynglŷn â gwneud eich gardd yn haws i'w rheoli cysylltwch â Thrive ar 0118 988 5688 neu edrychwch ar wefan www.carryongardening.org.uk i gael awgrymiadau defnyddiol.
ID:
20238
Adolygwyd:
21/6/2012



Mae Pont Cleddau ar agor i bob cerbyd ar hyn o bryd



