Sir Benfro Ddiogelach
Beth ydym ni?
Sir Benfro Ddiogelach yw'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer Sir Benfro. Sefydlwyd Partneriaethau Diogelwch Cymunedol ledled Cymru a Lloegr fel cyrff statudol yn dilyn cyhoeddiad Deddf Trosedd ac Anhrefn 1988. Ei nod yw gweithio ar y cyd er mwyn gostwng troseddu ac anhrefn, ofn troseddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal leol.
Mae gan bob Partneriaeth Diogelwch Cymunedol gytundebau penodol gyda'r Swyddfa Gartref i ostwng troseddu ac mae'n gweithio i wella diogelwch cymunedol o fewn eu Sir leol. Bydd yn rhaid i Sir Benfro Ddiogelach adolygu lefelau a phatrymau troseddu ac anhrefn yn rheolaidd, a llunio cynlluniau i fynd i'r afael â materion allweddol. Hefyd mae'n crynhoi barn y cyhoedd ynglŷn ag ofn troseddau mewn cymunedau, a'r sicrwydd a geir gan asiantaethau.
Ariennir Sir Benfro Ddiogelach gan nifer o grantiau pddi wrth y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar themâu megis Cymunedau Diogelach, Gostwng Troseddu ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Cam-drin Domestig a Chamddefnyddio Sylweddau. Mae Sir Benfro Ddiogelach yn dibynnu hefyd ar gyfraniadau, boed yn ariannol neu o fathau eraill, gan asiantaethau partnerol.
Pwy ydym ni?
Yr awdurdodau sy'n gyfrifol am weithredu'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn yw'r Cyngor Sir lleol, yr Heddlu ac Awdurdod yr Heddlu, y Bwrdd Iechyd Lleol a'r Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae awdurdodau eraill sydd â dyletswydd i gydymffurfio yn hyn o beth yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Brawf leol, y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae gan yr awdurdodau hyn ddyletswydd i ystyried troseddu ac anhrefn yn eu holl swyddogaethau beunyddiol, a gwneud popeth y gallan nhw o fewn rheswm i atal troseddu ac anhrefn yn eu hardal leol. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i weithio tuag at ostwng ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau yn y Sir. Mae gan Sir Benfro Ddiogelach asiantaethau aelodol eraill hefyd, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth GIG, y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro.
Beth yw ein blaenoriaethau?
Mae Sir Benfro Ddiogelach yn cynnal asesiadau rheolaidd o ddata troseddu, ac mae'n ymgynghori ag aelodau'r gymuned leol, er mwyn nodi materion sy'n achosi pryder i drigolion Sir Benfro.
Mae'r blaenoriaethau sy'n cael ein sylw ar hyn o bryd yn cynnwys:
- Cyffuriau ac alcohol
- Troseddu treisgar, yn enwedig troseddu treisgar sy'n ymwneud ag alcohol
- Cam-drin domestig
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol
- Diogelwch ar y ffyrdd
- Bwrgleriaeth
Beth ydym ni'n ei ddarparu?
Mae llawer o waith Sir Benfro Ddiogelach yn ymwneud â sicrhau bod yr asiantaethau'n cyfathrebu a gweithio gyda'i gilydd a bod ganddynt y polisïau a'r cynlluniau cywir i fynd i'r afael â blaenoriaethau lleol. Fodd bynnag, mae Sir Benfro Ddiogelach yn darparu nifer o wasanaethau rheng flaen, gan gynnwys:
- Gwasanaethau i'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau neu'r rhai sy'n gofalu amdanynt
- Cynlluniau i nodi a gweithio gyda throseddwyr cyson
- Gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr a chyflawnwyr cam-drin domestig
- Cymorth i'r rhai sy'n dioddef oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Gwybodaeth ac offer ar gyfer diogelu'ch hun a'ch eiddo
- Gwiriadau/cynlluniau diogelwch mewn tafarnau a chlybiau
- Gweithgareddau gwrthdyniadol ar gyfer pobl ifanc.
Ym mhle byddwch chi'n ein gweld?
Mae gan Sir Benfro Ddiogelach bresenoldeb yn y mwyafrif o fforymau cymunedol, megis Cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth, Gwarchod Cychod a Gwarchod Ffermydd, a chyfarfodydd Heddlu a'r Gymuned Gyda'i Gilydd.
Hefyd rydym yn gysylltiedig â digwyddiadau Trefi Taclus a gwyliau cymunedol megis sioeau lleol, diwrnodau gwasanaethau brys a digwyddiadau haf.
Byddwch chi'n gweld aelodau Sir Benfro Ddiogelach o gwmpas eich cymuned hefyd, trwy gynlluniau megis cynllun Bobby Van, sgyrsiau Gostwng Bwrgleriaeth gydag amrywiaeth o glybiau/grwpiau, a phresenoldeb y Timau Plismona yn y Gymdogaeth.
Sut allwch chi gysylltu â ni?
Gellir cysylltu â thîm Sir Benfro Ddiogelach ar 01437 769669. Hefyd gallwch chi gyfleu negeseuon atom trwy eich Timau Plismona yn y Gymdogaeth.
ID:
18360
Adolygwyd:
22/1/2013



Mae Pont Cleddau ar agor i bob cerbyd ar hyn o bryd



