Marchnadoedd Nadolig

Santa

Ar ddydd Gwener 7, 14 a 21 Rhagfyr,  9am - 3pm yng Nghanolfan Siopa Riverside, Hwlffordd.

Dewch draw i fanteisio ar amrywiaeth eang o gynnyrch blasus Sir Benfro, o gig, ffowls a helfilod; pysgod cregyn, llysiau, planhigion a pherlysiau; yn ogystal â chaws, wyau, bara, teisennau, danteithion, pastai a chyffeithiau a phŵer o bethau eraill. Bydd gennych lond gwlad o ddewis gan gynnwys bargeinion Nadolig fel basgedi'r ŵyl sy'n llawn o gynhyrchion mêl, tyrcwn Nadolig, gamon â chyflas, mins-peis, brownis, teisen Nadolig, pecynnau rhodd llawn y gyffeithiau a basgedi'n llawn blodau planedig. Ar ben hynny mae dewis o gig a llysiau organig yn ogystal â chynnyrch llysieuol a fegan.

Gallwch ymuno yn hwyl yr ŵyl ar 7 a 14 Rhagfyr pan fydd plant o'r ysgolion lleol yn dod i ddiddanu stondinwyr a siopwyr fel ei gilydd, gyda cherddoriaeth a charolau Nadolig. Cewch hefyd gymryd rhan yn ein Raffl Nadolig ac fe allech ennill basged sy'n llawn hyd y fyl o gynnyrch bendigedig y farchnad.

DYDDIAD I'W NODI:
Bydd Marchnad Ffermwyr Hwlffordd yn ailddechrau ar
ddydd Gwener 4 Ionawr 2013

 

 

 

 


ID: 21416 Revised: 29/11/2012