Canolfannau Mwynder Dinesig ac Ailgylchu
Beth yw Canolfan Mwynder Dinesig ac Ailgylchu?
Yn syml iawn, man sy'n cynnwys popeth yw Canolfan Mwynder Dinesig ac Ailgylchu, lle gallwch chi gael gwared â'ch gwastraff a'i ailgylchu.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Cyngor Sir Penfro wedi buddsoddi arian sylweddol yn y safleoedd hyn. Mae e wedi'u gwella'n fawr er mwyn ymdrin â rhagor o wastraff. Ar ben hynny mae'r staff wedi cael hyfforddiant dwys.
Ailgylchu'ch gwastraff - mae e cyn rhwydded â dim.
Sawl canolfan sydd yn y Sir?
Mae chwe chanolfan i gyd, a'r un fwyaf yw'r Ganolfan Mwynder Dinesig ac Ailgylchu yn Old Hakin Road yn Winsel, Hwlffordd. Mae'r safleoedd eraill ym Marnawan, Tyddewi, Y Salterns yn Ninbych-y-pysgod, Waterloo yn Noc Penfro a Hermon ar bwys Crymych.
Pwy sy'n gallu eu defnyddio?
Mae’r Canolfannau Ailgylchu a Mwynder Dinesig ar agor i holl ddeiliaid tai y sir, sy’n gallu defnyddio ein cyfleusterau am ddim ar gyfer gwastraff arferol y cartref ac ar gyfer ailgylchu. Efallai y bydd rhaid talu am gael gwared â meintiau mawr.
Safleoedd Mwynder Dinesig Cyngor Sir Penfro – ni chafodd y mannau hyn eu darparu ar gyfer cael gwared â meintiau mawr o wastraff adeiladau/dymchwel, gan fusnesau na chwaith gan gartrefi lle mae gwaith adnewyddu sylweddol DIY yn mynd rhagddo. Fodd bynnag, byddant yn derbyn yn rhad ac am ddim, feintiau bach o wastraff adeiladu gan brosiectau DIY ar raddfa fechan sy’n cael eu gwneud gan y cyhoedd yn eu heiddo eu hunain.
Ar gyfer unrhyw bethau unigol o faint mwy - o switiau ystafell ymolchi, unedau cegin gosod, ffenestri, drysau, ffensys a siediau wedi eu tynnu oddi wrth ei gilydd neu bethau eraill yn ymwneud â chlirio tai a thasgau'r cartref - byddwn yn codi tâl nominal yn unol â'r rhestr taliadau (a welir isod) er mwyn cael cyfraniad at y costau cael gwared â hwy. Bydd tâl yn cael ei godi ar bob cwsmer masnach a busnes. Ni fyddwn yn derbyn meintiau mawr o ddefnyddiau ac felly rydym yn eich cynghori i ddefnyddio contractwr trwyddedig sy'n ymdrin â sgipiau/gwastraff.
Ni fydd y safleoedd yn derbyn meintiau mawr o ddefnyddiau ac rydym yn eich cynghori i ddefnyddio cwmni trwyddedig sy’n ymwneud â sgipiau/gwastraff.
Mae’r taliadau’n gorfod cael eu talu pan ydych chi’n defnyddio’r safle.
Mae busnesau bach hefyd yn gallu mynd â rhywfaint o'u gwastraff i'r safleoedd hyn er bod taliadau'n cael eu codi am gael gwared â rhai defnyddiau. Byddwch cystal â ffonio'r ganolfan gyswllt ar: 01437 764551 er mwyn cael manylion beth y gallwch ei gludo i safle a faint y byddwch chi'n gorfod ei dalu am hynny.
Rwyf i'n ddeiliad tŷ - beth allaf i ei gludo i'r safleoedd hyn?
- Poteli a jariau gwydr
- Caniau dur ac alwminiwm
- Batris ceir
- Gwastraff gwyrdd o'r ardd
- Papurau newydd, papur swyddfa a chylchgronau, yn cynnwys Yellow Pages, llyfrau ffôn a chatalogau (nid rhai clawr caled)
- Metel sgrap
- Olew peirannau cerbydau
- Olew coginio
- Nwyddau metel gwyn yn cynnwys oergelloedd a rhewgelloedd a ffyrnau, peiriannau golchi a sychdaflwyr
- Gwastraff anadweithiol (sger)
- Paentiau, farneisiau a theneuwyr
- Fflwroleuadau a bylbiau goleuni ynni isel
- Setiau teledu a monitorau cyfrifiaduron a'r holl nwyddau trydanol fel heyrn stilo, sugnwyr llwch ac ati
- Carpedau
- Batris y cartref
- Pedwar teiar i bob cartref y flwyddyn (nid Dynbych Y Pysgod)
- Cardbord a phren
- Silindrau nwy - Propan a Bwtan yn unig (Ni chânt eu derbyn yn Ninbych-y-Pysgod na Doc Penfro)
- Bwrdd plastr - dim mwy na thri bag (codir tâl am fwy na thri bag)
- Cartonau Diodydd - Tetra Pak
- Dillad, tecstilau, esgidiau
- Llyfrau, Cdau, Fideos
- Dodrefn i'w ailddefnyddio (nid Dinbych-y-Pysgod)
- Matresi
Sylwch os gwelwch yn dda nad ydym yn gallu derbyn bwrdd plastr y mae'r pethau canlynol yn sownd arno neu wedi effeithio arno:
- Mae'n wlyb neu'n llaith
- Mae sbwng neu ddefnydd insiwleiddio arall yn sownd arno
- Mae stydiau metel neu bren yn sownd arno
- Mae teils seramig yn sownd arno
- Mae wedi ei lygru ag asbestos neu rwbel
- Mae wedi caledu'n dalpiau, neu mae fel powdr heb ei ddefnyddio
Tynnwch bant unrhyw o'r pethau uwchben sy'n sownd arno cyn ei ailgylchu yn eich Canolfan Amwynder ac Ailgylchu agosaf os gwelwch yn dda.
Nid ydym yn derbyn bagiau Oren yn unrhyw un o'n Canolfannau Mwynder Dinesig ac Ailgylchu
Ystyr WEEE yw offer trydanol ac electronig gwastraff. Mae'n offer trydanol ac electronig sydd wedi dod i ddiwedd ei ddyddiau ac mae'n cynnwys popeth gyda phlwg neu fatri. Mae wedi'i rannu'n ddau ddosbarth, sef WEEE o gartrefi a ddim o gartrefi.
Mae'n gyfarwyddeb a ddaeth i rym yn 2007 gyda'r nod o gwtogi ar yr holl bethau trydanol ac electronig sy'n cael eu hanfon i dirlenwi.
Mae gan bob un o'n Canolfannau Amwynder Dinesig ac Ailgylchu'r modd i dderbyn ac ailgylchu WEEE, lle maen nhw'n cael eu cadw hyd nes bydd cwmni arbenigol sy'n gallu eu hailgylchu yn dod i'w mo'yn.
Mae REPIC, sef Consortiwm Ailgylchu Diwydiant y Cynhyrchwyr Trydanol, sy'n rheoli'r gwaith o ailgylchu gwastraff electronig ar ran Cyngor Sir Penfro yn un o'r partneriaid a sefydlodd y gynghrair ddiwydiannol hon. Mae rhagor o wybodaeth am WEEE a Chynllun Cydymffurfio Sir Benfro i'w chael ar www.repic.com
Am ragor o wybodaeth byddwch cystal â ffonio'r ganolfan gyswllt ar: 01437 764551
Dyma enghreifftiau o OGTE:
- Nwyddau metel gwyn yn cynnwys oergelloedd a rhewgelloedd
- Ffyrnau, peiriannau golchi a sychdaflwyr
- Fflwroleuadau yn cynnwys bylbiau goleuni ynni isel
- Setiau teledu a monitorau cyfrifiaduron ac eitemau bach fel holl fel heyrn stilo ac ati
NID YDYM YN DERBYN OGTE GAN FUSNESAU
Rwy'n berchen ar fusnes bach - pa daliadau fyddaf i'n gorfod eu talu?
Codir tâl am waredu gwastraff anadweithiol (rwbel), pren, metelau sgrap a gwastraff cyffredinol sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yn ôl y taliadau gwaredu presennol
Ni fyddwn yn codi tâl arnoch am ddefnyddio'r cyfleusterau ailgylchu gwydr, caniau, cardbord na phapur chwaith.
Faint yw'r taliadau hyn? - prisiau fel yr oeddent ar 1af Ebrill 2013
| Y rhestr taliadau |
2013/14 |
||
|
HEB TAW |
TAW |
YN CYNNWYS TAW |
|
|
Fesul bag neu gyfatebol i fag |
£1.00 |
£0.20 |
£1.20 |
|
Llwyth bach (fan agored neu fan fach) |
£45.00 |
£9.00 |
£54.00 |
| Llwyth canolig (maint fan Gludo) |
£77.50 |
£15.50 |
£93.00 |
|
Llwyth mawr (maint fan Luton) |
£107.50 |
£21.50 |
£129.00 |
| Plastrfwrdd a Gypswm fesul tunnell (amcangyfrif) |
£100.00 |
£20.00 |
£120.00 |
| Isafbris plastrfwrdd &TAW ( Ôl -gerbydau( |
£25.00 |
£5.00 |
£30.00 |
Mae gwella'r broses o wahanu gwastraff yn ein Canolfannau Amwynder Dinesig ac Ailgylchu yn gweithio!
Ers rhoi'r cynllun hwn ar waith yn 2008/09 - mae Safleoedd AD wedi gweld cynnydd anferthol o ran ailddefnyddio/ailgylchu/compostio o 48% yn 2006/07 i 68% yn 2010/11, gyda rhai safleoedd yn cyflawni 70% neu ragor.
Yn ystod 2010/11 cafodd 19,054 o dunelli o wastraff eu prosesu trwy chwe Safle AD Sir Benfro. Cafodd mwy na 12,866 o dunelli o hyn un ai eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu compostio, yn lle eu hanfon i dirlenwi.
ID:
15937
Adolygwyd:
25/3/2013



Mae Pont Cleddau ar agor i bob cerbyd ar hyn o bryd



