Pwyso a mesur y gost

Ein gwasanaethau A-Y:
Cliciwch y botwm chwarae i wrando ar y tudalen hwn

Gwir gost cewynnau go iawn!

Bydd cost defnyddio cewynnau go iawn yn dibynnu'n fawr ar y math o gewyn y byddwch yn penderfynu ei ddefnyddio a'r nifer sydd eu hangen arnoch.

Cewynnau fflat yw'r dewis rhataf, a byddai'n bosibl cael yr holl gewynnau ac eitemau ychwanegol sydd eu hangen arnoch am tua £110.  Mae cewynnau wedi'u siapio yn fwy tebygol o gostio tua £150.  Mae sawl manwerthwr yn cynnig ‘pecynnau cychwyn cewynnau go iawn o'r geni i'r poti' sy'n costio tua £200.

Byddai'n fuddiol rhoi cynnig ar sawl cynllun a steil gwahanol cyn i chi fuddsoddi yn y system gewynnau rydych chi ei eisiau. Mae rhai cwmnïau yn cynnig pecynnau prawf, lle'r ydych chi'n llogi amrywiaeth o steiliau o gewynnau.

Er bod cost gychwynnol prynu cewynnau go iawn yn gallu bod yn eithaf buddsoddiad, mae rhai rhieni yn dechrau prynu pethau ychydig ar y tro fel nad oes llawer o gost ar un tro.

Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnig cynllun arian yn ôl hyd at £60, ar ôl i'r babi gael ei eni (gweler tudalen... am fanylion). Bydd hyn yn gwneud y gost gychwynnol yn llai amlwg.






ID: 17809 Adolygwyd: 29/4/2010