Cynllun Gwobrau Ysgolion Cynaliadwy
Addysg er datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang
"Mae addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang (ADCDF) yn ymwneud â'r hyn rydym yn ei wneud bob dydd. Mae'n ymwneud â materion mawr y byd - er enghraifft newid yn yr hinsawdd, masnach, adnoddau a disbyddu amgylcheddol, iawnderau dynol, gwrthdaro a democratiaeth - a'r modd y maent yn gysylltiedig â'i gilydd ac yn berthnasol i ni. Mae'n ymwneud â'r modd rydym yn trin y ddaear a'r modd rydym yn ymwneud â'n gilydd, beth bynnag yw'r pellter rhyngom. Mae'n ymwneud â'r modd rydym yn paratoi ar gyfer y dyfodol. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae"
ADCDF: Gwybodaeth ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ac Athrawon Newydd yng Nghymru Gorffennaf 2008
Mae Sir Benfro wedi cofleidio hyn drwy Gynllun Gwobr Ysgolion Cynaliadwy Sir Benfro, a sefydlwyd yn 2003 er mwyn annog agwedd ysgol gyfan tuag at ADCDF, gyda'r amcanion canlynol:
- cynorthwyo wrth ddatblygu a gweithredu ADCDF yn y cwricwlwm
- cynorthwyo wrth ddatblygu ysgolion fel sefydliadau cynaliadwy
- galluogi darparwyr ADCDF yn Sir Benfro i weithio gyda'i gilydd er lles ysgolion
Mae'n gynllun partneriaeth, sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Penfro, gyda chynrychiolwyr o'r darparwyr ADCDF canlynol yn Sir Benfro a Chaerdydd ar y grŵp llywio, sy'n cyfarfod bob tymor:
- Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
- Canolfan Eco Gorllewin Cymru
- Eco-Ysgolion Cymru
- Ysgolion sy'n Hyrwyddo Iechyd
- Adnoddau Tir a Môr
- SCAN - Rhwydwaith Agenda 21 Ysgolion mewn Cymunedau
Mae'r partneriaid hyn yn cynnig cymorth i ysgolion weithredu'r cynllun hwn.
Mae'r cynllun yn cynnwys wyth pwnc ADCDF. Mae ysgolion yn dewis tri phwnc i ennill y wobr efydd, tri arall i ennill yr arian, a'r ddau olaf i ennill yr aur, ac erbyn hyn dylai'r ysgol fod yn gweithio'n gynaliadwy, ac fe ddylid cynnwys ADCDF yng nghynllunio a Chynllun Datblygu'r Ysgol. Y pynciau yw:
- Gwastraff a Minimeiddio Gwastraff
- Dŵr
- Bioamrywiaeth
- Byw'n Iach
- Ynni
- Cludiant
- Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Dinasyddiaeth Gymunedol
Mae 69 o ysgolion wedi ymrestru ar y cynllun. O'r rhain, mae 45 wedi ennill y wobr efydd, 25 yr arian a 10 y wobr aur.
Mae Swyddog y Prosiect Ysgolion Cynaliadwy yn gweithio dri diwrnod yr wythnos er mwyn darparu cefnogaeth i ysgolion, yn yr ysgol gyda Chydlynydd Ysgolion Cynaliadwy'r ysgol neu'r holl staff, ynghyd â thrwy weithgorau neu ddiwrnodau rhwydweithio athrawon, sy'n cael eu cynnal bob tymor. Argymhellir darparwyr allanol i ysgolion, a gellir defnyddio'r cynllun i ariannu prosiectau arbennig.
Mae enghreifftiai o'r rhai o'r prosiectau a gynhelir mewn ysgolion yn dangos ystod y prosiect a'r modd mae'n gallu cefnogi meysydd eraill o'r cwricwlwm.
Aeth un dosbarth blwyddyn 4 ar ymweliad â'r ganolfan ailgylchu yn Withyhedge fel rhan o gynllun gwaith, ac yn dilyn hyn fe wnaethant ffilm ynglŷn â gwastraff ac ailgylchu yn Sir Benfro, ac mae hwn ar gael ar gyfer pob ysgol i'w gwylio ar yr e-borth.
Bu disgyblion Blwyddyn 2 mewn un ysgol sydd ar yr arfordir yn astudio crwbanod y môr a'u bwyd, gan gysylltu hyn ag ysbwriel morol ac annog pobl leol i ddefnyddio bagiau defnydd, gan fod crwbanod y môr yn gallu bwyta bagiau plastig yn ddiarwybod iddynt yn lle slefren môr. Cysylltwyd hyn â'r ymgyrch leol i atal y defnydd o fagiau plastig yn y pentref.
Mae un ysgol fach wledig yn annog mwynhau'r cefn gwlad drwy fenthyca pedomedrau a chamerâu digidol i ddisgyblion y tu allan i oriau ysgol. Maent yn llenwi templed ynglŷn â'r daith gerdded gyda'u teulu, gan dynnu lluniau ac ysgrifennu am nodweddion diddorol, a rhoi gradd i'r daith gerdded. Bydd y rhain i gyd yn cael eu rhoi mewn llyfr, a fydd ar werth i'r bobl leol ac ymwelwyr i Sir Benfro.
For further information please contact:
Janie Pridham, Sustainable Schools Project Officer
SPAN House
Moorfield Road
Narberth / Arberth
Pembrokeshire / Sir Benfro
SA67 7AG
Ffôn: 01437 563071
E-bost:
janie.pridham@pembrokeshire.gov.uk
ID:
6733
Adolygwyd:
16/11/2012



Mae Pont Cleddau ar agor i bob cerbyd ar hyn o bryd



