Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
Cafodd Cynllun Gweithredu Lleol (LBAP) ar gyfer Sir Benfro ei gyhoeddi gyntaf yn 2000 yn sgil cyfarwyddyd y DU. Yn y cynllun gwreiddiol roedd gwybodaeth fanwl am fioamrywiaeth Sir Benfro a oedd yn cynnwys disgrifiadau o gynefinoedd a chynlluniau gweithredu ynghylch cynefinoedd a rhywogaethau. Mae llawer o gamau gweithredu'r cynlluniau hyn wedi cael eu rhoi ar waith gan unigolion, sefydliadau a thrwy gydweithio.
Prif swyddogaeth LBAP Sir Benfro yw darparu fframwaith a chyfres o gynlluniau gweithredu, sy'n cynnwys yr hyn a wneir nawr ac at y dyfodol, er mwyn cyflawni'r nod canlynol:-
Bod yn ymwybodol o'r fioamrywiaeth arbennig o wych sydd yn Sir Benfro, a chynyddu hyd yr eithaf y cyfraniad y mae hi'n ei wneud at les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y sir, gan roi ystyriaeth i'r blaenoriaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac Ewropeaidd wrth gwrs.
Yn sgil cyhoeddi'r cynllun blaenorol fe gafwyd nifer o ddatblygiadau a chafodd cyfarwyddyd newydd ei ddarparu hefyd. O ganlyniad i hynny roedd yn rhaid cynnal adolygiad llawn ar LBAP Sir Benfro er mwyn amlygu'r newidiadau hyn.
Mae fersiwn diwygiedig Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Benfro wedi cael ei rannu yn 2 ran:
Rhan 1: 'Cyflwyniad i'r LBAP'
Mae'r cyflwyniad yn egluro beth yw cefndir bioamrywiaeth yn Sir Benfro a beth yw swyddogaeth Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Benfro. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y cynefinoedd a'r rhywogaethau blaenoriaeth yn Sir Benfro.
Rhan 2: Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth ar gyfer Sir Benfro
Fe luniwyd cynlluniau gweithredu sy'n cynnwys targedau a chamau gweithredu ar gyfer cynefinoedd dosbarthedig, generig, rhywogaethau dosbarthedig a rhywogaethau unigol yn Sir Benfro.
Mae sefydliadau arweiniol / grwpiau / unigolion wedi cael eu dewis i roi ar waith y camau gweithredu sydd yn y cynlluniau. Er mwyn i'r camau gweithredu hyn gael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus bydd yn rhaid parhau i gydweithio â chymunedau lleol, diwydiant, masnach ac unigolion.
Dim ond ar ffurf electronig y mae'r cynlluniau gweithredu ar gael ac felly gellir eu diweddaru pan fydd yr wybodaeth ddiweddaraf un ar gael. Mae'r Cynlluniau hyn (yn Saesneg) ar gael i'w lawrlwytho oddi ar BARS - wefan System Adrodd ar Weithredu Bioamrywiaeth (agor ffenest newydd).
Mae'r cynlluniau hynny sydd ar gael ar BARS wedi cael eu lliwddangos a'u hymgysylltu â'r we-dudalen berthnasol. D.S. mae gwaith yn mynd rhagddo ar rai o'r cynlluniau hyn.
ID:
19158
Adolygwyd:
12/6/2012



Mae Pont Cleddau ar agor i bob cerbyd ar hyn o bryd



