Tîm Rheoli Gofal Plant

Ein gwasanaethau A-Y:
Cliciwch y botwm chwarae i wrando ar y tudalen hwn

Tîm Rheoli Gofal Plant

Dyma beth yw ein gwaith, a'r bobl yr ydym yn gweithio â hwy

Rydym yn gweithio â'r plant sy'n "derbyn gofal" gan y Cyngor Sir; rydym hefyd yn cydlynu'r cynlluniau amddiffyn plant ar gyfer plant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant, ac yn gweithredu cynlluniau amlasiantaethol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Ar ben hynny i gyd byddwn yn rhoi cymorth ac yn cynnal asesiadau ar gyfer Gofalyddion Maeth Preifat a mabwysiadau gan Lys-rieni.

  • Plant sy'n ‘Derbyn Gofal' gan Gyngor Sir Penfro.
    Os yw plentyn yn gorfod byw oddi cartref a bod Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol yn gofalu amdano/amdani, yr enw ar hyn yw "derbyn gofal".
  • Plant sydd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
    Efallai y caiff plant a phobl ifanc hyd at 18 oed gael eu dodi ar y gofrestr amddiffyn plant oherwydd pryderon ynghylch eu lles a'u daioni. Gellir cofrestru plant o dan 4 categori: esgeulustod, camdriniaeth gorfforol, camdriniaeth emosiynol a chamdriniaeth rywiol.
  • Plant mewn Angen
    Plant mewn Angen – dyma grŵp eang o bobl ifanc y mae pryderon yn bodoli yn eu cylch; sef na fyddant, o bosibl, yn gallu llwyddo i gael na chynnal iechyd na datblygiad, o safon resymol, heb gael mynediad at wasanaethau.
    Yn benodol mae Deddf Plant 1989 yn dweud bod yr holl blant anabl yn blant sydd mewn angen, ac felly hefyd y plant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant.

 

  • Llys-rieni sy'n gwneud cais am asesiad er mwyn mabwysiadu plentyn
    Pan fydd rhiant plentyn yn priodi, fe all y priod fabwysiadu'r plentyn, ac yna bydd y plentyn yn dod yn blentyn y ddau briod. Fe all y broses fabwysiadu gynnwys newid enw ar gyfer y plentyn.
  • Plant sy'n cael eu ‘maethu'n breifat'.
    Maethu'n breifat – dyma drefniad (nad yw'n ymwneud â'r Awdurdod Lleol yn y bôn) ynghylch gofalu am blentyn o dan 16 mlwydd oed (o dan 18 oed, os yw'n anabl) gan berson nad yw'n rhiant nac yn berthynas agos chwaith, gyda'r bwriad o sicrhau y bydd yn para mwy na 28 diwrnod.

Maethu Preifat

Dywed Deddf Plant 1989 bod gofalyddion maeth preifat, neu rieni plant sy'n derbyn gofal gan ofalyddion maeth preifat, yn gorfod hysbysu adran Gwasanaethau Cymdeithasol yr awdurdod lleol, yn ysgrifenedig, ynghylch y trefniad ynghylchmaethu'n breifat. Y rheswm dros hyn yw taw dyletswydd yr awdurdod lleol yw sicrhau bod lles yr holl blant sy'n derbyn gofal o dan drefniadau maethu'n breifat, yn cael ei ddiogelu.

Byddwn yn gweithio law yn llaw ag asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill fel yr heddlu, addysg, tai a'r ymddiriedolaeth bwrdd iechyd.

I gael Gofal Cymdeithasol dylai'r cysylltiadau neu'r atgyfeiriadau newydd gysylltu â'r Tîm Asesu.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag:

Y Tîm Asesu Gofal Plant
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP

Ffôn: 01437 776322 neu 01437 776325
Ffacs: 01437 776337

Fe all y cwsmeriaid presennol gysylltu'n uniongyrchol â'r tîm rheoli gofal plant ar gyfer eu hardal hwy.
Mae swyddog ar ddyletswydd ar gael o 9am - 5pm o ddydd Llun i Gwener.

Tîm y Gogledd sy'n gofalu am ranbarth gogledd y sir:

Rheoli Gofal Plant - Y Gogledd
Llawr 1af
Adain y Gogledd
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP
Ffôn: 01437 775796

Tîm y De sy'n gofalu am y rhanbarth i'r de o Afon Cleddau ac Aberdaugleddau:

Rheoli Gofal Plant – Y De
Y Ganolfan Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Argyle Street
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6HL

Ffôn: 01437 776016 (need to put in a table side by side.)

E-bost: contactcentre@pembrokeshire.gov.uk

 






ID: 14140 Adolygwyd: 10/2/2011