Newyddion Diweddaraf
Gweler isod am y newyddion diweddaraf gan Sir Benfro Tîm Cefnogi Pobl:
Y Newyddion Diweddaraf - Haf 2012
Canllawiau Cenedlaethol Cefnogi Pobl
Mae'n flwyddyn bontio ar y rhaglen Cefnogi Pobl. Cyhoeddwyd y Canllawiau Cefnogi Pobl newydd 27 Gorffennaf 2012 ac mae'r dulliau gweithio newydd ar waith ar hyn o bryd. Mae'r newidiadau mwyaf yn cynnwys trefn lywodraethol newydd, ffrwd ariannu newydd i'r Awdurdodau Lleol ei gweinyddu ac ailddyrannu cyllid rhwng Awdurdodau Lleol. Dyma fydd effaith hyn ar Sir Benfro:
- Mae'r drefn lywodraethol newydd yn cynnwys sefydlu Pwyllgorau Cydweithredol Rhanbarthol (PCRh) ym mhob un o chwe rhanbarth Cymru; mae Sir Benfro yn rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin gyda'n partneriaid Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys. Mae'r PCRh yn cynnwys aelodau etholedig, darparwyr gwasanaethau, landlordiaid, cynrychiolwyr y gwasanaethau Iechyd a Phrawf, defnyddwyr gwasanaethau a Swyddogion yr Awdurdodau Lleol. Diben y grŵp hwn yw datblygu'r modd y cyflwynir y Rhaglen Cefnogi Pobl yn rhanbarthol ac yn lleol er mwyn sicrhau'r gwasanaethau mwyaf effeithlon ac effeithiol. .
- Mae ffrydiau airannu Cefnogi Pobl wedi cael eu huno yn grant unigol sy'n cael ei weinyddu gan Awdurdodau Lleol, a daeth hyn i rym ar 1 Awst 2012. Gyda'r drefn hon bydd Awdurdodau Lleol yn cael rhagor o hyblygrwydd a rheolaeth ar y ffyrdd yr ydym yn comisiynu gwasanaethau a oedd gynt yn cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Cymru.
- Fe luniwyd fformiwla newydd ar gyfer dosbarthu cyllid i Awdurdodau Lleol. O ganlyniad i hynny mae'r cyllid i Sir Benfro wedi cynyddu oddeutu £90,000 eleni, a bydd y swm hwnnw'n cynyddu £340,000 a £470,000 yn ystod y 2 flynedd nesaf. Bydd y cynyddiadau hyn yn fodd i Sir Benfro gryfhau ei gwasanaethau cymorth ar gyfer tai ledled y sir. Felly, os ydych yn gwybod am fylchau yn narpariaeth y gwasanaethau hyn, byddai'r tîm Cefnogi Pobl yn hoffi clywed gennych nawr yn fwy nag erioed.
Mae modd lawrlwytho copi isod o'r ‘Canllawiau Cefnogi Pobl 2012' newydd:
Adolygu a Monitro'r Gwasanaethau
Yn ddiweddar, mae'r Tîm Cefnogi Pobl wedi dod i ben ag adolygu'r Gwasanaeth Cymorth Fel y Bo'r Angen ar gyfer Cam-drin Domestig a'r Prosiect Pontio y mae Gwalia Care yn ei weithredu a'r Gwasanaeth Cymorth Fel y Bo'r Angen ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau y mae Cymdeithas Gofal Sir Benfro yn ei weithredu. Mae adolygiadau o bob gwasanaeth lloches a larwm gyda CP yn digwydd nawr gyda'r nod o'u cwblhau erbyn mis Tachwedd 2012.
Bydd adolygiadau o'r Gwasanaeth Cymorth Anstatudol ar gyfer Iechyd y Meddwl a'r Gwasanaeth Cymorth mewn Argyfwng yn digwydd ym mis Medi.
Yn dilyn yr adolygiadau sydd wedi eu hamlinellu uchod, bydd adolygiadau yn dechrau o'r gwasanaethau yr oedd Grant Rhanbarthol Cefnogi Pobl yn arfer eu hariannu. Nid yw trefn yr adolygiadau hyn wedi ei chwblhau hyd yma, ond caiff y Darparwyr wybod cyn gynted ag y bydd y drefn wedi ei phenderfynu.
Mae monitro chwarterol wedi ei dderbyn gan bob darparydd yn Sir Benfro ar gyfer y flwyddyn ariannol2011/2012. Mae monitro Q1 wedi ei dderbyn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a'r dyddiad olaf ar gyfer Q2 yw 5Hydref 2012.
Cynllun Comisiynu Lleol (Cynllun Gweithredu Cefnogi Pobl)
Mae cynigion prosiect drafft a anfonwyd i mewn erbyn y dyddiad olaf ar gyfer 2012, sef 15 Mehefin, yn cael eu gwerthuso i weld a fyddai modd eu cyflwyno i gyfarfod y Grŵp Cynllunio Cefnogi Pobl ym mis Medi 2012.
Hoffem gipio'r cyfle hwn i ddiolch i'r darparwyr gwasanaethau a'r sefydliadau hynny sydd wedi paratoi a chyflwyno cynigion ar gyfer eleni.
Er ein bod wedi llwyddo i gwblhau eleni erbyn dyddiad cyflwyno'r prosiectau ar gyfer eleni, rydym yn croesawu prosiectau a gyflwynir ar gyfer y flwyddyn ariannol 2014/2015. Mae croeso i chi gysylltu â'r tîm Cefnogi Pobl gydag unrhyw syniadau neu awgrymiadau ar gyfer Gwasanaethau, un ai rai newydd neu rai sy'n bodoli eisoes, a allai elwa ar gyllid Cefnogi Pobl. Gall y tîm ddarparu templed cynnig gwasanaeth i chi ei gwblhau, a chyngor os bydd ei angen.
Dylid nodi bod y Cynllun Comisiynu Lleol yn dod yn lle'r Cynllun Gweithredu Cefnogi Pobl. Mae croeso i chi gysylltu â'r tîm Cefnogi Pobl am ragor o fanylion.
Supporting People Team / Tim Cefnogi Pobl
Pembrokeshire County Council / Cyngor Sir Penfro
County Hall / Neuadd y Sir
Haverfordwest / Hwlfordd
SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551
E-bost:
supporting.people@pembrokeshire.gov.uk
ID:
21430
Adolygwyd:
6/12/2012



Mae Pont Cleddau ar agor i bob cerbyd ar hyn o bryd



