Os ydych chi rhwng 9 ac 16 mlwydd oed, bydd angen i chi ymuno â'r Clwb Cyfrifiaduron er mwyn defnyddio'r cyfrifiaduron yn y llyfrgell. Yr oll sydd yn rhaid i chi ei wneud yw casglu ffurflen o'ch llyfrgell leol, a chael rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr i'w llofnodi.
Cofiwch ddod â cherdyn y Clwb Cyfrifiaduron gyda chi bob tro yr ydych chi eisiau defnyddio cyfrifiadur.
Os ydych chi yn iau na 9 mlwydd oed, bydd yn rhaid i chi ddod ag oedolyn gyda chi er mwyn defnyddio'r cyfrifiadur.
Cofiwch, efallai y bydd ychydig o wybodaeth yn cael ei ffiltro gan Gyngor Sir Penfro.
ID: 11183 Revised: 2/3/2009