Trowch eich cefn ar strach a helynt bywyd y dref a'r ddinas a gwelwch eich breuddwydion am ddiwrnod perffaith yn dod yn wir pan ddewiswch Sir Benfro ar gyfer eich priodas, partneriaeth sifil neu eich seremoni enwi neu ailddatgan addunedau.
Mae Sir Benfro, Bro Hud a Lledrith, a'i Gwasanaeth Cofrestru yn eich gwahodd i ddathlu achlysuron pwysicaf eich bywyd yn y sir hudol hon.
Yn Sir Benfro gellir cynnal pob seremoni sifil yn Swyddfa Gofrestru Ardal Sir Benfro yn Hwlffordd (lle i 40 yn unig gyda phawb yn eistedd), Ystafelloedd Seremoni De Sir Benfro, Heol Argyle, Doc Penfro (lle i 50 yn unig, gyda rhai yn sefyll) neu yn unrhyw un o nifer o adeiladau sydd wedi eu cymeradwyo ar hyn o bryd. Mae'r mannau hyn yn amrywio o ran maint a lleoliad - gwestai bach agosatoch, ysgubor wedi ei ailwampio'n chwaethus, neu westai mwy, plastai a thai gwledig a hyd yn oed castell neu ddau! Mae pob un yn rhai o ardaloedd harddaf Sir Benfro - ym mhellafoedd y wlad yn y gogledd, ger glannau geirwon ysgubol neu drefi glan môr yn y de. Mae rhywbeth i bawb, eich problem fwyaf fydd penderfynu lle!
Bydd eich seremoni chi yn cael ei llunio'n arbennig ar gyfer eich gofynion, ac mae'n gallu bod mor ffurfiol neu anffurfiol ag y dymunwch - cyn lleied â'r ddau ohonoch a dau dyst neu gynulliadau mwy yn unol â'r lleoliad y byddwch yn ei ddewis. Fe gewch seremoni draddodiadol neu anffurfiol ac yna gwledd, barbiciw neu ddim ond mynd am dro bach ar y traeth a hedfan eich barcut!
Trowch eich cefn ar hynt a helynt y byd a mwynhau profiad gwirioneddol hudolus.
ID: 10150 Adolygwyd: 8/9/2010