Croeso i'r Haf!!!
Mae'r haf ar ddod - cyfnod hynod fishi o chwe wythnos. Felly beth am fanteisio ar ein hamrywiaeth ardderchog o weithgareddau yn y pwll a'n diwrnodau chwarae.
Awst 3ydd a 5ed 2010 - Diwrnod ar y traeth ac rydym yn cynnig cyfle i grŵp o 40 plentyn, rhwng 8 - 15 oed, fynd i joio diwrnod hwyliog ar y traeth. Bydd y diwrnod ar fynd o 8.00am - 5.00pm, a bydd yn cynnwys dosbarth dysgu sut i frigdonni, diogelwch ar y traeth a phŵer o hwyl a gemau i'w chwarae ar y traeth. Pris y diwrnod yw £2.50 y plentyn.
Awst 18fed 2010 - Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod yn cyflwyno diwrnod sy'n llawn hwyl, ffitrwydd a rhyddid. Cewch ddewis o blith amrywiaeth aruthrol o weithgareddau a mynd ati i'w joio am faint bynnag o amser a fynnoch! Bydd y diwrnod ar fynd o 10.00am - 5.00pm ac mae croeso i'r teulu i gyd. Diwrnod AM DDIM ydyw! Felly cofiwch fanteisio i'r eithaf arno!
* Mae'r holl blant yn gorfod cael eu cofrestru gyda Hamdden Sir Benfro a bydd gofyn ichi ddod â chinio pecyn gyda chi, a digonedd o ddiod a dillad nofio. Am ragor o wybodaeth byddwch cystal â gofyn i staff y dderbynfa neu gallwch ffonio 01834 843575
Beth am fwrw golwg ar ein hamserlen Haf er mwyn gweld yn union pa bethau eraill sydd gyda ni ar eich cyfer chi'r haf yma
Canolfan hamdden fodern yr ydym wedi parhau i fuddsoddi ynddi a datblygu rhagor arni. Mae hi'n
fwy na dim ond pwll nofio erbyn hyn - bellach hi yw un o'n cyfleusterau hamdden mwyaf
poblogaidd.
Mae'r pwll 25 metr yn dal yno ynghyd â phwll addysgu i'r plantos bach, ac mae ynddi hefyd neuadd
chwaraeon amlddefnydd â 6 chwrt sydd â chyfleusterau ardderchog i bobl wylio beth sy'n digwydd.
Dydd Llun - Gwener 7.30am - 10.00pm
Dydd Sadwrn 9.00am - 5.00pm
Dydd Sul 9.00am - 5.00pm
Mae'r ganolfan yn cynnal nifer o glybiau a chymdeithasau i blant iau ac oedolion. Am ragor o fanylion byddwch cystal â chlicio ar y ddolen isod neu ffoniwch y ganolfan.
Er mwyn gweld map lleoliad o'r ganolfan hon byddwch cystal â chlicio yma
Tenby Leisure Centre
Marsh Road
Tenby
Pembrokeshire
SA70 8EJ
Ffôn: 01834 843575
Ffacs: 01834 845910
E-bost: TenbyLeisureCentre@pembrokeshire.gov.uk
ID: 6666 Adolygwyd: 27/7/2010