Cartref|
English|
Chwiliwch|
Safle Graffegol|
COFRESTRU AM DOCYN DARLLENWR
Bydd angen tocyn Archifau Cymru ar yr archifau cyfrannog dim ond os ydych yn dymuno edrych ar y dogfennau gwreiddiol. Does dim angen tocyn darllenwr arnoch i gael mynediad at lyfrau cyfeirio nac adnoddau ar-lein neu ficroffurf yn yr archifau. I gael gafael ar docyn darllenwr, rhaid i chi ddod â dwy ddogfen gyda chi - un o restr A i brofi pwy ydych ac un o restr B i brofi'ch cyfeiriad.
SYLWER: Adeg cofrestru tynnir ffotograff hefyd ac fe'i cedwir yn drydanol fel rhan o'r prawf tystiolaeth hunaniaeth. Caiff pob data personol ei drin yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data 1998
A. Prawf adnabod (rhaid cynnwys llofnod dilys):
B. Prawf cyfeiriad (ni dderbynnir deunydd wedi'i argraffu o'r we):
Sylwer:
Os nad ydych yn gallu dod ag unrhyw un o'r eitemau hyn, neu os nad oes cyfeiriad sefydlog gennych, siaradwch ag aelod o staff y Gwasanaeth Archifau, a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i ffordd o ddefnyddio ein gwasanaeth. Fodd bynnag, ni allwn gyflwyno tocyn heb ddull adnabod digonol - yn anffodus, ni ellir gwneud eithriad i'r rheol hon, er mwyn diogelu cywirdeb y cynllun tocynnau darllenwyr.
Prawf i fyfyrwyr
Os ydych yn 14 oed neu'n hŷn ac yn dal i fod yn yr ysgol neu'r coleg, os nad oes modd i chi ddarparu'r dogfennau am docyn o'r rhestrau uchod, gallwch ddod â llythyr ar bapur pennawd wedi'i lofnodi gan eich athro neu diwtor, ynghyd â thystiolaeth o'ch hunaniaeth sy'n cynnwys eich enw a ffotograff portread, megis pasbort, Cerdyn Dinesydd neu gerdyn fyfyriwr. Mae templed ar gael ar gyfer y llythyr angenrheidiol gan eich athro neu eich tiwtor.
Adnewyddu a chardiau coll
Mae tocynnau darllenwyr yn ddilys am bum mlynedd o'r dyddiad cyhoeddi, a gellir eu hadnewyddu gyda phrawf adnabod a chyfeiriad.
Gellir rhoi tocynnau newydd yn lle rhai wedi'u collu, eu niweidio neu eu dwyn gyda phrawf adnabod a chyfeiriad. Fodd bynnag, efallai y bydd y swyddfa gyflwyno yn codi tâl am y tocyn newydd.
Dogfennau adnabod ofynnol ar gyfer Tocyn Darllen
Cymuned
Archifau
Prif Gasgliadau
Polisi Llungopïo
Cwestiynnau Cyffredin
Rhestrau Pwnc
Ble Ydyn Ni
Newyddion
Catalog yr Archif
Rheolau Ystafell Chwilio
Tocyn Darllenwr
Derbynion Newydd
Gwasanaethau A-Y|
Eich Cyngor|
Twristiaeth a Hamdden|
Cludiant|
Addysg|
Busnes|
Yr Amgylchedd|
Tai|
Gofal Cymdeithasol|
Cymuned|
Swyddi|