Nid oes rhaid cofrestru'r dewisiadau gofal plant canlynol ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)
Au Pairs
Mae au pairs yn bobl ifanc rhwng 17 - 27 mlwydd oed. Fel arfer nid oes ganddyn nhw gymwysterau gofal plant;
nid yw felly'n ddoeth gadael baban dan ofal au pair yn unig. Mae au pairs fel arfer yn dod o dramor ac
yn byw fel aelod o'r teulu er mwyn dysgu Saesneg. Mae'r Swyddfa Gartref yn caniatáu i au pairs
weithio mewn cartrefi teuluoedd am hyd at 5 awr y dydd a derbyn lwfans, ystafell a dau ddiwrnod llawn yn
rhydd bob wythnos. Dylid caniatáu iddynt fynychu dosbarthiadau iaith a gwasanaethau crefyddol os ydynt am
wneud hynny.
Gwarchodwyr
Fel arfer mae gwarchodwyr yn edrych ar ôl plant tra bod y rhieni allan am y nos. Nid oes cyfyngiadau cyfreithiol o ran oedran, ond dylai gwarchodwyr fod yn hŷn na 16 oed yn ôl yr NSPCC. Os ydych yn defnyddio gwarchodwyr sydd o dan 16 oed, ac mae'r plentyn yn cael ei anafu yn eu gofal, mae'n bosibl y byddwch yn gorfod derbyn cyfrifoldeb am hynny. Felly, dewiswch warchodwyr yn ofalus a gofynnwch am eirda os nad ydych yn adnabod y person yn dda.
Mae'r daflen 'Home Alone' yn cynnig cyngor i rieni sy'n chwilio am warchodwyr. Caiff ei chyhoeddi gan yr NSPCC ac mae ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) 01437 763344.
Meithrinfeydd
Mae meithrinfeydd i'w cael mewn amrywiaeth o leoliadau ac maen nhw'n cynnig gofal achlysurol. Fel arfer mae'r rhieni wrthi'n siopa, ymarfer neu'n gwneud chwaraeon. Rhaid i'r rhieni aros yn agos at y ddarpariaeth, ond nid o angenrheidrwydd yn yr un ystafell. Rhaid cofrestru'r feithrinfa os yw'n derbyn plant o dan wyth oed, ar agor am ddwy awr neu fwy y dydd ac am 6 niwrnod neu fwy mewn blwyddyn.
Ffrindiau ac Aelodau'r Teulu
Mae rhai rhieni yn gallu galw ar dad-cu neu fam-gu a pherthnasau neu ffrindiau eraill i edrych ar ôl y plant. Yn aml iawn, mae hyn yn gweithio'n dda os yw'r sefyllfa wedi cael ei thrafod yn gynnar iawn.
Ffactorau i'w hystyried:
Cofiwch
Os oes ffrind yn edrych ar ôl eich plentyn yn rheolaidd am fwy na dwy awr y dydd yn eu cartref, ac rydych yn eu talu neu'n rhoi taliad mewn nwyddau, mae'n rhaid iddo/iddi gofrestru fel gofalwr plant. Er mwyn gallu hawlio elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith mae'n rhaid defnyddio gofal plant cofrestredig neu gymeradwy.
Nanis
Mae nanis yn edrych ar ôl plant mewn cartrefi teuluoedd. Gallant fyw gyda'r teulu neu ymweld yn ddyddiol. Nid ydynt yn cael eu rheoleiddio ar hyn o bryd ac nid oes rhaid iddyn nhw gofrestru ag AGGCC, oni bai eu bod yn edrych ar ôl plant mwy na dau deulu. Y rhieni sy'n gyfrifol am gyfweld a gwirio geirda nanis.
Mae nanis yn cynnig gofal amser llawn neu ran-amser ar gyfer plant o bob oedran. Byddant yn cymryd cyfrifoldeb llawn dros y plentyn a phob agwedd o'i ofal yn absenoldeb y rhiant. Nid oes angen unrhyw hyfforddiant na phrofiad arbennig, ond mae gan nifer gymwysterau tebyg i DCE (Diploma mewn Gofal Plant ac Addysg), yr hen NNEB (Bwrdd Arholi Meithrinfeydd Cenedlaethol), BTEC mewn Astudiaethau Plentyndod, yr hen BTEC Nyrsio Meithrinfa neu'r NVQ mewn Gofal, Addysg a Datblygiad Plant.
O dan y Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant gallant wneud cais i fod yn weithiwr gofal plant cymeradwy.
Mae mwy o wybodaeth ar gael gan:
Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant Cymru
Rhif Ffôn: 0844 736 0260
Gwefan: www.childcareapprovalschemewales.co.uk
Grwpiau Rhieni a phlant bach / Cylchoedd ti a fi
Mae grwpiau rhieni a phlant bach yn darparu ar gyfer plant o dan ddwy flwydd oed fel arfer. Nid oes rhaid iddyn nhw gofrestru ag AGGCC gan fod rhieni/gofalwyr yn gyfrifol am eu plant eu hunain ac yn gorfod aros gyda nhw. Mae'r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i blant a rhieni gymysgu ag eraill a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau gwahanol.
Mae cylchoedd Ti a Fi yn galluogi rhieni a gofalwyr i chwarae ochr yn ochr â'u plant ac i gymdeithasu mewn awyrgylch anffurfiol Gymraeg. Gall rhieni nad ydynt yn siarad Cymraeg ddysgu'r iaith gyda'u plant, mwynhau straeon, caneuon a rhigymau elfennol, yn ogystal ag ymadroddion syml i'w defnyddio gartref.
Mae Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM) a Chymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru (Wales PPA) yn cefnogi grwpiau rhiant a baban/ cylchoedd ti a fi Sir Benfro.
Mae manylion grwpiau rhieni a phlant bach / cylchoedd ti a fi Sir Benfro ar gael gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) 01437 763344.
ID: 17248 Adolygwyd: 29/6/2010