Mae Llyfrgelloedd Sir Benfro yn bendant yn fwy na llyfrau'n unig! Mae gennym ni 12 o lyfrgelloed lleol a thair llyfrgell symudol ar draws y Sir, sy'n cynnig popeth o fynediad rhad ac am ddim at y rhyngrwyd i lyfrau print bras a llyfrau llafar.
Mae croeso i bawb ym mhob un o'n llyfrgelloedd lleol. Mae gennym ni staff cyfeillgar, cynorthwyol i'ch helpu chi gydag unrhyw beth sydd angen i chi gael gwybod. Gallwn eich helpu chi ddarganfod gwybodaeth am ddigwyddiadau cymunedol, olrhain eich cart achau, darganfod hanes lleol neu roi help llaw i chi ddod o hyd i lyfr da!
Mae cyfrifiaduron ar gael ym mhob llyfrgell leol gyda mynediad rhad ac am ddim i e-bost, rhyngrwyd band eang, prosesu geiriau, taenlenni a sganio dogfennau. Am dâl bach, gallwch argraffu mewn lliw neu ddu a gwyn a llungopïo dogfennau. Gall pawb sy'n aelodau o lyfrgell fwcio sesiwn ar PC ar-lein, drwy ffonio neu drwy ofyn i aelod o staff y llfrgell.
Rydym ni'n cynnig gwasanaeth gwneud cais am lyfr, felly, os nad yw'r llyfr gennym, byddwn yn gwneud ein gorau i gael gafael ynddo, ac os nad ydych chi'n gallu mynd i mewn i'r llyfrgell i adnewyddu eich llyfrau eich hun, gallwch bellach ei wneud dros y ffôn neu ar-lein.
Mae gennym ni gatalog ar-lein sy'n cynnwys yr holl itemau sydd ar gael yn llyfrgelloedd Sir Benfro. Gallwch chwilio am deitl neu thema benodol a gwirio ym mha bynnag lyfrgell y mae o foethusrwydd eich cartref eich hun. Argymhellwn eich bod chi'n cysylltu â'r llyfrgell sy'n cadw'r eitem i sicrhau ei fod ar gael mewn gwirionedd cyn i chi wneud taith arbennig.
Yn olaf, ond yn
bendant nid y lleiaf, rydych chi'n cael y cyfan yn RHAD AC AM DDIM!!
Ydy, mae hyn yn wir, mae aelodaeth o'r llyfrgell yn rhad ac am ddim. Galwch i mewn i unrhyw lyfrgell yn Sir Benfro gydag un eitem sy'n dangos eich enw a chyfeiriad cyfredol, e.e. trwydded yrru, bil gwasanaethau neu ddogfen swyddogol arall. Mae gofyn i blant 16 mlwydd oed neu llai gael oedolyn i weithredu fel gwarantwr a llofnodi'r ffurflen aelodaeth. Cofiwch, ar ôl i chi ymuno ag un llyfrgell, rydych chi wedi ymuno â phob un, a gallwch ddefnyddio unrhyw lyfgell yn Sir Benfro i gyd.
Felly, gyda hyn oll yn cael ei gynnig, am beth ydych chi'n aros?
Llyfrgelloedd Sir Benfro, yn bendant yn fwy na llyfrau yn unig!!!
ID: 10037 Adolygwyd: 1/9/2010