Plant yw ein dyfodol ac mae Chwaraeon Sir Benfro - tîm datblygu chwaraeon Cyngor Sir Benfro - yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn addysgu pobl ifanc am fanteision byw'n iach.
Yn anffodus, os yw'r argoelion presennol yn parhau, rhagwelir mai gordewdra fydd y broblem iechyd unigol mwyaf a fydd yn wynebu cymdeithas o fewn 10 mlynedd.
Gordewdra yw canlyniad deiet gwael a diffyg ymarfer oherwydd ffordd o fyw heddiw sydd ar y cyfan yn fwy eisteddog. Mae'n arwain at glefyd y galon, clefyd siwgr, osteoporosis a diffyg iechyd cyffredinol.
Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal hyn yw trwy ymarfer rheolaidd. Mae arbenigwyr meddygol a Chynghorwyr Iechyd y Llywodraeth yn argymell y dylai oedolion ymarfer yn weddol ddwys am o leiaf 30 munud, pum gwaith yr wythnos, ac argymhellir plant i ymarfer am o leiaf awr y dydd.
Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd yn ffordd bwysig o gyflawni lefelau ymarfer o'r fath ac o ganlyniad mae Chwaraeon Sir Benfro yn blaenoriaethu ei ymdrechion i gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon ac ymarfer rheolaidd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Yn hanfodol i ymdrechion o'r fath y mae'r angen i sicrhau fod sgiliau chwaraeon sylfaenol yn cael eu dysgu yn ifanc.
Gyda chyfarwyddyd i greu rhaglen chwaraeon a mynd â nhw i ysgolion, clybiau a chymunedau ein Sir, mae cynlluniau Chwaraeon Sir Benfro yn cynnwys:
Gwasanaeth AG Peripatetig
Dysgu addysg gorfforol mewn ysgolion ledled y Sir a chynnig cyngor a hyfforddiant i athrawon, hyfforddwyr a
staff cefnogi. Mae'r tîm hefyd yn darparu cymorth adnoddau i Wyliau Chwaraeon Ysgol.
Canolfannau Datblygu Chwaraeon Ysgol ac AG
Sefydlu enghreifftiau arfer da o ddysgu AG a chwaraeon ysgol, gan gynnwys hyfforddiant arbenigol ar gyfer
athrawon AG.
Clybiau Chwaraeon tu allan i Oriau Ysgol
Trefnu clybiau chwaraeon allgyrsiol, yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer athrawon, rhieni a gwirfoddolwyr a
chynlluniau arweiniad chwaraeon i ddisgyblion chweched dosbarth - gan gynnwys y cynllun Chwaraeon y Ddraig
hynod lwyddiannus i ysgolion Cynradd.
Cynlluniau Datblygu sy'n Ymwneud yn Benodol â Chwaraeon
Datblygu clybiau a chysylltiadau rhwng ysgolion a chlybiau mewn amrywiaeth o chwaraeon gan gynnwys Criced,
Seiclo, Pêl-droed, Golff, Pêl-rwyd, Rygbi a Thennis.
Addysg i Hyfforddwyr
Rhedeg cyrsiau Corff Llywodraethu Chwaraeon Cenedlaethol a chynlluniau cofrestru hyfforddwyr.
Grantiau Coffrau Cymunedol
Cyflenwi grantiau i glybiau ac ysgolion ar gyfer mentrau chwaraeon newydd.
Chwaraeon Anabledd
Datblygu clybiau chwaraeon anabledd a darparu hyfforddiant arbenigol i athrawon, hyfforddwyr a staff
cefnogi dysgu a gofalwyr.
ID: 6680 Adolygwyd: 25/6/2010