Mae ein canolfannau croeso wedi'u lleoli ledled y Sir ac maent mae gyda hwy ddarparieth dda ar eich cyfer er mwyn bodloni pob un o'ch anghenion gwybodaeth. Os taw ymwelydd neu berson lleol ydych chi, gall y canolfannau eich helpu chi i joio Sir Benfro trwy roi gwybodaeth am ddigwyddiadau ac atyniadau lleol, amserlenni bysiau, teithiau cerdded, llwybrau seiclo a llawer rhagor.
Os oes arnoch angen cadw lle i aros ynddo, croesi mewn fferi i Iwerddon, mynd ar wyliau neu wibdaith mewn bws pleser, neu os hoffech gael gwybod rhagor am ein Sir, mae gyda ni staff cyfeillgar a gwybodus yma i'ch helpu chi.
Ar ben hynny mae gyda ni stoc o anrhegion a chofroddion wedi'u gwneud gydag arlunwyr a chrefftwyr lleol. Felly, os ydych chi'n chwilio am yr anrheg berffaith honno neu rywbeth i gofio eich gwyliau, yna dewch draw i un o'n canolfannau er mwyn gweld beth sydd gyda ni i'w gynnig.
Cais am bamffled (Mewn ffenest newydd)
ID: 10481 Adolygwyd: 30/6/2010