Rhwyddineb y Rhyngrwyd
Mae prosiect ‘Cysylltu Cymunedau' Cyngor Sir Penfro wedi cael ei ddarparu ar gyfer grwpiau cymunedol sydd ar hyn o bryd heb unrhyw fynediad o gwbl at wasanaeth band eang neu sydd â mynediad cyfyngedig ato, neu sy'n gorfod defnyddio llinell ffôn arferol i gael mynediad at y rhyngrwyd.
Os byddwch chi'n defnyddio band eang yn eich bywyd beunyddiol gallwch arbed arian a chael gafael ar amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleoedd ar unwaith.
Mae Cysylltu Cymunedau yn gallu dangos sut y gellir chwalu unrhyw rwystrau i'r rhyngrwyd. Gall hefyd roi cymorth i brosiectau sy'n galluogi ardaloedd i gael cysylltiadau da wrth ddefnyddio band eang - ardaloedd sydd â chysylltiadau band eang gwael ar hyn o bryd.
I gael rhagor o wybodaeth a thrafod y cyfleoedd yn eich ardal gallwch ffonio Natalia Miles ar 01437 775538 neu anfon e-bost at: natalia.miles@pembrokeshire.gov.uk
Mae'r prosiect wedi cael arian trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig
ID:
24078
Adolygwyd:
29/2/2012



Mae Pont Cleddau ar agor i bob cerbyd ar hyn o bryd



