Penderfyniad ynghylch y tyrbinau gwynt
Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Penfro'n rhoi sylw i bedwar cais cynllunio ar gyfer dodi tyrbinau gwynt mawr yn ne-ddwyrain y Sir.
Pwyllgor Cynllunio'r Cyngor fydd yn penderfynu beth yw canlyniad y cynnig hwn sy'n ymwneud â dodi 2 dyrbin 800kw yn Princes Gate Spring Water ar bwys Arberth. Ers i'r Awdurdod gael y cais hwn, mae e hefyd wedi cael ceisiadau cynllunio ar gyfer y canlynol:
- tyrbin 500kw ar dir Fferm Blaencilgoed, yr Eglwys Lwyd
- tyrbin 500kw ar dir Hill Farm, yr Eglwys Lwyd
- a thyrbin 330kw ar dir Martin Hill Farm East, Martletwy.
Mae'r nifer fawr o geisiadau a gyflwynwyd ynghyd â maint y tyrbinau sydd yn yr arfaeth wedi golygu y bu'n rhaid i'r Cyngor Sir beidio â chynnwys y tri chais diweddarach yn y cynllun dirprwyo.
Felly bellach bydd y rhain yn cael eu rhoi gerbron y Pwyllgor Cynllunio er mwyn iddo ef ddod i benderfyniad arnynt, ar ôl pwyso a mesur beth fydd effaith gronnol y cynigion hyn.
Felly bellach bydd y rhain yn cael eu rhoi gerbron y Pwyllgor Cynllunio er mwyn iddo ef ddod i benderfyniad arnynt, ar ôl pwyso a mesur beth fydd effaith gronnol y cynigion hyn.
ID:
23947
Adolygwyd:
6/2/2012



Mae Pont Cleddau ar agor i bob cerbyd ar hyn o bryd



