Canolfan Croeso Abergwaun

Ein gwasanaethau A-Y:
Cliciwch y botwm chwarae i wrando ar y tudalen hwn

Canolfan Croeso Abergwaun

Marchnad Abergwaun

Mae Canolfan Wybodaeth Abergwaun wedi’i lleoli yn Neuadd y Dref, yn Sgwâr y Farchnad.

Mae Abergwaun yn enwog am Laniad y Ffrancod a ddigwyddodd ym 1797; dyna pryd y glaniodd y milwyr yng Ngharregwastad sydd oddeutu dwy filltir o Dref Abergwaun. Fe wrthsafodd y bobl leol mewn modd mor ddi-ildio fel y bu’n rhaid i’r Ffrancwyr ildio.

Cafodd y cytundeb ildio ei arwyddo yn nhafarn y Royal Oak sydd gyferbyn â’r Ganolfan Wybodaeth.

Gyda’r bwriad o ddangos hanes y glaniad yn ei gyfanrwydd, mae’r tapestri godidog hwn am y digwyddiad wedi cael ei ddodi yn ei oriel ef ei hun, yn y llyfrgell sydd uwchben y Ganolfan Wybodaeth. Mae’r oriel ar agor trwy gydol y flwyddyn.

Yn Neuadd y Dref mae Marchnad ffyniannus un dydd, sydd ar agor o 8:00am i 4:00pm ar ddydd Iau yn unig - Marchnad Abergwaun

Mae anrhegion a chofroddion ar gael i’w prynu yn y Ganolfan Wybodaeth, ynghyd ag amrywiaeth ardderchog o wasanaethau a gwybodaeth am ddim.

Yng Nghwm Gwaun y ffilmiwyd rhai o’r golygfeydd ar gyfer ffilm Moby Dick” ac yno hefyd y cafodd “Under Milk Wood” gan Dylan Thomas ei ffilmio. Seren y ffilm hon oedd Richard Burton, ond fe ymddangosodd seren arall ynddi hefyd – un o’n staff ni!

Mae ein staff cyfeillgar a gwybodus yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r Ganolfan Wybodaeth lle cewch chi lond gwlad o wybodaeth a manylion am yr ardal leol, er mwyn ichi allu manteisio i’r eithaf ar eich ymweliad â Sir Benfro.

Oriau Agor

Yr Haf:
Dydd Llun - Dydd Gwener: 9:30am - 5:00pm 
Dydd Sadwrn: 10:00am - 4:00pm
Chwe Wythnos Gwyliau'r Haf: Dydd Sul: 10:00am - 4:00pm

Y Gaeaf:
Dydd Llun tan Ddydd Gwener: 10:00am - 4:00pm
Dydd Sadwrn 10:00am - 1:00pm

Lluniau Abergwaun

Fishguard Information Centre / Canolfan Croeso Abergwaun
The Town Hall / Neuadd y Dref

Market Square / Sgwar y Farchnad
Fishguard / Abergwaun
SA65 9HE

Ffôn: 01437 776636
Ffacs: (01348) 875246
E-bost: fishguard.tic@pembrokeshire.gov.uk


ID: 10483 Adolygwyd: 7/12/2012