Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan ei bwerau yn gofyn bod Cyngor Sir Penfro yn cyfranogi yn y Fenter
Twyll Genedlaethol ar gyfer 2010/11. Mae'n ofynnol i'r Cyngor o dan y gyfraith i ddiogelu'r
arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu. Gall rannu gwybodaeth a ddarperir iddo gyda chyrff eraill sy'n
gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus er mwyn atal neu ganfod twyll
Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn penodi'r archwilydd i archwilio cyfrifon Cyngor Sir Penfro.
Mae'r grym a'r cyfrifoldeb ganddo hefyd i gyflawni ymarferiadau cydweddu data.
Beth yw cydweddu data?
Mae cydweddu data yn golygu cymharu cofnodion cyfrifiadur a ddelir gan un corff yn erbyn cofnodion
cyfrifiadur eraill a ddelir gan yr un corff neu gorff arall. Gwybodaeth bersonol yw hon fel arfer. Mae
cydweddu data cyfrifiadur yn galluogi nodi hawliadau a thaliadau twyllodrus. Lle ceir cydweddiad, mae'n
dangos y gall fod anghysondeb sy'n gofyn am ragor o ymchwilio. Ni ellir gwneud unrhyw ragdybiaeth
ynglŷn ag a oes twyll, camgymeriad neu esboniad arall nes bod ymchwiliad wedi'i gynnal.
Pam mae'n rhaid i'r Cyngor rannu data er mwyn cydweddu data?
Ar hyn o bryd mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i ni fod yn rhan o ymarferiad cydweddu data er mwyn cynorthwyo i atal a chanfod twyll. Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gofyn bod y Cyngor hwn, o dan ei bwerau yn Rhan 3A Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, i ddarparu gwybodaeth sydd ganddo at y diben hwn. Mae gofyniad arnom, lle gallwn, i ddarparu setiau penodol o ddata i'r Archwilydd Cyffredinol ei gydweddu ar gyfer pob ymarferiad, ac mae'n cynnwys er enghraifft, pethau tebyg i fudd-dâl tai, pasys a thocynnau trafnidiaeth fel bathodynnau glas, cyflogres, trwyddedau a phreswylwyr cartrefi gofal â chymorth preifat. Nodir y rhestr lawn a'r manylion yn Llawlyfrau'r Archwilydd Cyffredinol, yn www.wao.gov.uk/whatwedo/1252.asp (Mewn ffenest newydd)
Defnyddio Data
Defnyddir data gan yr Archwilydd Cyffredinol mewn ymarferiad cydweddu data gydag awdurdod statudol o dan bwerau yn Rhan 3A Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Nid yw'n ofynnol cael cydsyniad yr unigolion dan sylw o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.
Mae'r gwaith cydweddu data a wneir gan yr Archwilydd Cyffredinol dan reolaeth Cod Ymarfer. Gellir gweld hwn yn www.wao.gov.uk/whatwedo/2052.asp (Mewn ffenest newydd)
Rhagor o Wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a'r rhesymau y bydd yn cydweddu gwybodaeth benodol, trwoch at brif wefan Swyddfa Archwilio Cymru www.wao.gov.uk (Mewn ffenest newydd) a llywiwch neu chwiliwch y safle neu defnyddiwch y dolenni penodol a nodir uchod neu cysylltwch â: Katrina Febry, Cydlynydd NFI, Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ (Ffôn: 029 2032 0616 neu anfonwch E-bost i nfi@wao.gov.uk
Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gweithio gyda'r Comisiwn Archwilio yn Lloegr ar gyfer NFI, a'r wefan berthnasol yw www.audit-commission.gov.uk/nfi (Mewn ffenest newydd)
ID: 16226 Adolygwyd: 9/9/2010