Gwledd o Lyfrau!
Roedd ieuenctid Sir Benfro'n dathlu'r pleser o ddarllen a bodio llyfrau dros y Sul.
Mynychodd tua 60 o blant y Ffiesta Llyfrau Plant yn Llyfrgell Hwlffordd.
Trefnwyd yr achlysur gan Gyngor Sir Penfro yn rhan o ddathliadau Blwyddyn Genedlaethol Darllen eleni.
Gwrandawodd yr ieuenctid ar amrywiaeth eang o awduron a chymryd rhan mewn gweithdai a chystadlaethau hefyd.
Ymhlith yr awduron yn darllen rhannau o'u gwaith roedd Alan Gibbons, sy'n arbenigo mewn sgrifennu ar gyfer plant yn eu harddegau, ac Atinuke, a lansiodd ei llyfr newydd 'Hooray for Anna Hibiscus' yn yr achlysur.
Hefyd yn bresennol roedd Patricia Moffett, a fu'n dangos ei gwaith fel darlunydd llyfrau, ac Anwen Francis, sy'n ysgrifennu straeon am Siani'r ceffyl Shetland ar gyfer darllenwyr Cymraeg iau ac roedd wedi dod â Siani gyda hi'n gwmni.
Roedd yr achlysur hefyd yn rhan o Wythnos Genedlaethol Llyfrau Plant (Hydref 4 tan 11) ac ymgyrch Dyddiau Hapus Llyfrgelloedd Cymru –'Cymrwch olwg o'r newydd ar eich llyfrgell.'
Capsiwn
Yn y llun yng nghwmni Atinuke, awdures sy'n byw yn Sir Benfro, gwelir Yasemin ac Ayse Ozdemir o Hwlffordd.
ID:
16407
Adolygwyd:
15/10/2008



Mae Pont Cleddau ar agor i bob cerbyd ar hyn o bryd



