Cyngor Sir Penfro

Mapiau a Data Ystadegol Ar-lein

Map Sir Benfro

Mapiau Ar-lein

Mae'r gwasanaeth hwn yn gadael i chi chwilio'n ddaearyddol am gyfleusterau'r Cyngor a gwasanaethau yn Sir Benfro, ac yna gallwch gael gwybodaeth ychwanegol ynghylch y safle sydd o ddiddordeb arbennig i chi. Trefnwyd y data sy'n dangos yr amrywiol wasanaethau'n nifer o themâu. Ar hyn o bryd y rhain yw:

  • Gweinyddu
  • Yr Amgylchedd Hanesyddol
  • Gwasanaethau Cymunedol
  • Yr Amgylchedd naturiol
  • Democratiaeth
  • Gofal Cymdeithasol
  • Addysg
  • Chwaraeon a Hamdden
  • Iechyd
  • Cludiant

Mae'r cyfleuster hefyd yn cynnwys:

  • cyfleuster dod o hyd i gyfeiriad, sy'n gadael i gael hyd i eiddo arbennig trwy roi enw tŷ, stryd neu god post;
  • dod o hyd i'r swyddogaeth agosaf ataf sy'n gadael i chi gael hyd i'r gwasanaethau agosaf at eiddo yn unrhyw ran o Sir Benfro;
  • offeryn hysbysu namau fel y gallwch roi gwybod am unrhyw namau neu broblemau a gewch gyda gwasanaethau'r Cyngor Sir.

Os ydych yn defnyddio'r gwasanaeth hwn am y tro cyntaf, cymrwch amser i ddarllen y cyfleuster Help cysylltiedig wrth ddefnyddio Mapiau Ar-lein, gan y bydd yn esbonio beth all yr holl wahanol eiconau wneud.

Cliciwch yma i weld Mapio Ar-lein (Mewn ffenest newydd)

Gadewch eich ymateb i ni os gwelwch yn dda 

Data ystadegol - Proffil Sir Benfro

Lluniwyd yr Adroddiad Sirol gan Dîm GIS a Gwybodaeth Cyngor Sir Penfro, sy'n gyfrifol am gynnal Cronfa Ddata'r Bartneriaeth Broffilio Gymunedol. Sefydlwyd y gronfa ddata gan y Cyngor Sir gyda'u partneriaid yn y Cynllun Cymunedol, er mwyn cefnogi'r Cynllun Cymunedol ar gyfer Sir Benfro a darparu gwybodaeth ystadegol briodol i'r partneriaid.  

Yn y rhifyn cyntaf hwn o'r Adroddiad Sirol cewch amrywiaeth fawr o ffeithiau a ffigyrau a fydd yn gymorth i   egluro'r agweddau demograffig, economaidd ac amgylcheddol ar Sir Benfro.  Daw'r data sydd yn y gronfa ddata gan bartneriaid y Cynllun Cymunedol yn ogystal â nifer o ffynonellau allanol.  Rydym yn gobeithio y bydd cynnwys yr adroddiad yn hygyrch ac o fudd i chi.  Mae'r adroddiad yn cynnwys adrannau ar y testunau canlynol:

 
  • Ffeithiau Allweddol
  • Diogelwch y Gymuned
  • Y Broses Ddemocrataidd
  • Cyflogaeth a'r Economi
  • Addysg
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Tai
  • Yr Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig
  • Poblogaeth
  • Tlodi ac Amddifadedd
  • Cludiant

 

Cliciwch yma i weld y Data Ystadegol

Gadewch eich ymateb i ni os gwelwch yn dda.





Rhannu'r Tudalen Hon


ID: 6689 Adolygwyd: 22/7/2010