*
| Rhestr Swydd Wag | Mewngofnodiwch i adfer cais ar lein sy`n bodoli`n barod |
Pennaeth Cynorthwyol 1105-3826 |
| Addysg |
| Ysgol Gyfun Ddwyieithog Y Preseli, Crymych, Sir Benfro, SA41 3QH |
| £50,453 - £55,669 |
| Mae Ysgol y Preseli yn ysgol benodedig ddwyieithog lwyddiannus. Ystyrir yr ysgol ymhlith y
goreuon o safbwynt arholiadau allanol. Arolygwyd yr ysgol ym mis Hydref 2008 a dyfarnwyd ei bod yn
"ysgol dda iawn gyda nifer o nodweddion rhagorol. Mae ymddygiad y disgyblion yn ganmoladwy. Caiff
parch at eraill flaenoriaeth uchel o fewn yr ysgol. Mae gan bob disgybl ymagwedd gadarnhaol tuag at eu
gwaith". Dyfarnwyd graddau 1 ar gyfer pob un o'r saith cwestiwn allweddol. Lleolir yr ysgol ym
mhentref Crymych sydd o fewn 40 munud o deithio o'r M4. Chwiliwn am bersonau brwdfrydig gyda chymwysterau da i lenwi'r swyddi isod. Dysgir y pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae'n angenrheidiol i'r ymgeiswyr llwyddiannus i fod yn gwbl rhugl yn y Gymraeg, yn llafar ac yn ysgrifenedig. Disgwylir i'r ymgeiswyr fod yn frwd dros addysg Gymraeg ac yn barod i gyfrannu i weithgareddau allgyrsiol. Yn eisiau ar gyfer Medi 1af 2010: Pennaeth Cynorthwyol : Cyflog L14 - L18 £50,453 - £55,669 Chwiliwn am berson egniol gyda gweledigaeth i ymuno â thîm rheoli'r ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan flaenllaw yn y broses o arfarnu ac hunan-arfarnu gwaith yr adrannau. Disgwylir hefyd arweiniad ynglŷn â materion ysgol gyfan eraill i gynnwys Cydgysylltydd Addysg Arbennig Ychwanegol, Materion Bugeiliol, Amddiffyn a Lles Plant, Addysg Bersonol a Chymdeithasol a Chysylltiadau Cynradd - Uwchradd. Manylion pellach ynglŷn â'r swydd uchod oddi wrth y Pennaeth ac yna ceisiadau drwy gwblhau'r ffurflen gais, llythyr ac enwau dau ganolwr erbyn dydd Llun 22ain o Chwefror 2010. |
| Dydd Cau: 22/02/10, Ar Gau |
|
|
| Rhestr Swydd Wag | Mewngofnodiwch i adfer cais ar lein sy`n bodoli`n barod |
ID: 11025 Adolygwyd: 28/8/2007
| Ni allwch wneud cais am y swydd wag hon ar-lein. Mae'r ysgol yn delio â'r swydd wag hon yn uniongyrchol, felly cysylltwch â'r ysgol i wneud cais. |
||
| Am rhagor o wybodaeth ffoniwch ni ar 01437 775710 neu llenwch ein enquiry form (bydd hwn yn cael ei drin gan ein Ganolfan Gyswllt Cwsmer) | ||