*
| Rhestr Swydd Wag | Mewngofnodiwch i adfer cais ar lein sy`n bodoli`n barod | Wnewch cais ar y we (mewn ffenest newydd) | Lawrlwytho Cais |
Anogwr Cyflogaeth 1103-3818 |
| Gwasanaethau Personél |
| Doc Penfro |
| £17161 - £21519 |
| Mae gyda ni 2 swydd cyfnod penodol ar gael tan Fedi 30ain 2011. Mae Futureworks yn cynnal rhaglenni Gwaith ar y Gorwel yn Sir Benfro ac maent yn dymuno penodi Ymgynghorwyr Cyflogaeth i ymuno â'n tîm sy'n cynyddu o hyd. Mae ein Hymgynghorwyr Cyflogaeth yn chwarae rhan allweddol bwysig mewn sicrhau lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwaith cyson i'n cwsmeriaid. Bydd gofyn ichi fynd ati i gael gafael ar swyddi newydd yn yr ardal trwy gyfrwng galwadau gwerthu, cyfarfodydd wyneb yn wyneb, post-dafliadau a mentrau perthnasol eraill. Byddwch yn gweithio ar eich liwt eich hun gyda'n cwsmeriaid a gan taw chi yw'r canolbwynt trwy gydol y broses, byddwch yn dod o hyd i gyfleoedd i'n cwsmeriaid ac yn eu cynorthwyo i fynd trwy'r cyfweliad a'r broses ddewis. Byddwch yn meddu ar sgiliau rhagorol rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid am fod y swydd hon yn gofyn ichi ddelio â chwsmeriaid wyneb yn wyneb, trwy weld yn union beth sy'n rhwystro cwsmeriaid unigol rhag cael gwaith, a mynd i'r afael â hynny. Bydd gennych bersonoliaeth gefnogol, lawn ysgogiad gan y byddwch yn rhoi cyngor, cymorth a mentora er mwyn cymell pobl i ymuno â gwaith. Byddwch hefyd yn cynorthwyo'r cwsmeriaid i ddod o hyd i swydd trwy roi iddynt gyngor a chyfarwyddyd ynghylch sgiliau addasrwydd i waith - llunio CV, chwilio am swydd, technegau cyfweliad a sesiynau ysgogi. Ar ben hynny bydd gofyn ichi allu dweud yn union beth yw rhwystrau'r cwsmeriaid ac yna eu hatgyfeirio at y partneriaid a'r gwasanaethau priodol. Bydd yn rhaid ichi fod yn gyfarwydd â gweithio yn ôl targedau a byddwch yn gallu gweithio dan bwysau gan mai swydd â thargedau yw hon. Dylai'r ymgeiswyr fod â phrofiad o raglenni sy'n cael eu ariannu gan y llywodraeth, ac o weithio yn ôl targedau gwerthu a safonau iechyd a diogelwch. Os bydd gennych brofiad o recriwtio neu baratoi a chynnal sesiynau hyfforddiant, bydd hynny'n fanteisiol. Cynhelir y cyfweliadau ar Fawrth 2il 2010. Bydd yn rhaid cael dadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol. |
| Dydd Cau: 19/02/10, Ar Gau |
|
|
| Rhestr Swydd Wag | Mewngofnodiwch i adfer cais ar lein sy`n bodoli`n barod | Wnewch cais ar y we (mewn ffenest newydd) | Lawrlwytho Cais |
ID: 11025 Adolygwyd: 28/8/2007
| Am rhagor o wybodaeth ffoniwch ni ar 01437 775710 neu llenwch ein enquiry form (bydd hwn yn cael ei drin gan ein Ganolfan Gyswllt Cwsmer) | ||