*
| Rhestr Swydd Wag | Mewngofnodiwch i adfer cais ar lein sy`n bodoli`n barod | Wnewch cais ar y we (mewn ffenest newydd) | Lawrlwytho Cais |
Ymgynghorydd Personol 1103-3817 |
| Comisiynu Gofal Plant |
| Neuadd y Dref Aberdaugleddau, Aberdaugleddau, Sir Benfro |
| i £20736 |
| Swydd am 22.25 awr yr wythnos yw hon. Tîm amlasiantaethol yn ein Hisadran Comisiynu Gofal Plant yw'r Gwasanaeth i Blant Dros 15 oed. Mae'n rhoi cymorth i bobl ifanc sy'n ymadael â'r system ofal ac sy'n ymbaratoi i fyw'n annibynnol. Bydd asesiadau'n cael eu cynnal a phecynnau datblygu'n cael eu trefnu er mwyn sicrhau eu lles a'u daioni. Tîm bychan ydyw, sy'n llwyddiannus a phendant ei ganolbwynt. Bydd eich gwaith chi'n cynnwys cynnal asesiadau, llunio a gweithredu cynlluniau a gweithio gyda'r bobl ifanc er mwyn iddynt all byw'n annibynnol. Chi fydd yn llwyr gyfrifol am achosion a byddwch yn ymwneud â chynnal hyfforddiant mewn sgiliau bywyd. Mae gan y bobl ifanc amrywiaeth eang o alluoedd ac anghenion ac fe ddisgwylir ichi weithio'n unigol â hwy er mwyn eu galluogi i feithrin sgiliau dod i ben â phethau. Mae'r gwaith yn golygu y bydd rhaid ichi deithio cryn dipyn o amgylch Sir Benfro a thu hwnt i'r sir ambell waith. Disgwylir ichi gydweithio'n agos ag aelodau eraill y tîm a gydag asiantaethau eraill. Bydd cadw cofnodion manwl gywir yn rhan hanfodol o'r swydd hon ac mae sgiliau cyfrifiadurol da yn hanfodol hefyd gan fod y rhan fwyaf o'r cofnodi'n cael ei wneud yn electronig. Byddwch wedi'ch addysgu hyd at Safon NVQ3 (neu byddwch yn fodlon astudio er mwyn ennill y cymhwyster hwnnw) a bydd gennych brofiad o weithredu ym maes Gofal Cymdeithasol, Gwaith Ieuenctid, Iechyd, Addysg neu faes tebyg. Byddwch yn gallu gweithio, yn llwyddiannus, â phobl ifanc er mwyn rhoi iddynt yr hunanhyder a'r galluoedd y mae arnynt eu hangen. Bydd gyda chi gar i'w ddefnyddio ar gyfer eich swydd, ac os bydd gennych y gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg byddai hynny'n fanteisiol. Bydd yn rhaid cael dadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol. |
| Dydd Cau: 22/02/10, Ar Gau |
|
|
| Rhestr Swydd Wag | Mewngofnodiwch i adfer cais ar lein sy`n bodoli`n barod | Wnewch cais ar y we (mewn ffenest newydd) | Lawrlwytho Cais |
ID: 11025 Adolygwyd: 28/8/2007
| Am rhagor o wybodaeth ffoniwch ni ar 01437 775710 neu llenwch ein enquiry form (bydd hwn yn cael ei drin gan ein Ganolfan Gyswllt Cwsmer) | ||