*
| Rhestr Swydd Wag | Mewngofnodiwch i adfer cais ar lein sy`n bodoli`n barod | Wnewch cais ar y we (mewn ffenest newydd) | Lawrlwytho Cais |
Swyddog Contractau Gwasanaeth 1103-3816 |
| Comisiynu Gofal Cymunedol |
| Ty Haverfordia, Lôn Wins, Hwlffordd, Sir Benfro |
| £17,161 to 19,126 |
| Swydd dros dro yw hon am hyd at 2 flynedd. Cynhelir y cyfweliadau ar Fawrth 2il 2010. Eich gwaith chi fydd cynorthwyo i lunio, drafftio, rheoleiddio, gweithredu a monitro'r contractau a'r cytundebau lefel gwasanaeth. Byddwch yn paratoi contractau a chytundebau lefel gwasanaeth, sicrhau y cydymffurfir â'r contractau sy'n bodoli eisoes, a monitro safon y gwasanaethau. Ar ben hynny byddwch yn gweinyddu a chynnal y systemau, yn ymgysylltu â'r partneriaid a'r asiantaethau allanol, ac yn rhoi cymorth a chyngor i'r rheolwyr comisiynu. Byddwch yn cydweithio'n agos â'ch cydweithwyr ym maes caffael, ac yn cynorthwyo i gynllunio a gweithredu maes prynu gwasanaethau gofal cymdeithasol. Byddwch yn cyd-drafod a gweithredu contractau y cytunwyd arnynt, yn paratoi adroddiadau, yn ymgysylltu ac ymgynghori â Swyddogion Gwasanaeth i Gwsmeriaid. Byddwch hefyd yn hybu a chynnal contractau pendant a pharhaol gyda'r darparwyr gofal cymdeithasol. Byddwch yn meddu ar gymhwyster proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol/tai/busnes neu gyllid neu byddwch wedi'ch addysgu hyd at lefel debyg mewn gwyddor berthnasol. Byddwch yn gyfarwydd â deddfwriaeth a chyfarwyddyd gofal cymdeithasol gan fod hyn yn gysylltiedig â datblygu economi cymysg, y farchnad, maes rheolaeth a threfnu contractau. Ar ben hynny bydd gennych brofiad o weithio yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol/tai/iechyd. Byddwch yn gyfathrebwr rhagorol, yn unigolyn manwl-gywir sydd â sgiliau cyflwyno da. Rhaid ichi fod yn gyfrifiadurol-lythrennog. |
| Dydd Cau: 18/02/10, Ar Gau |
|
|
| Rhestr Swydd Wag | Mewngofnodiwch i adfer cais ar lein sy`n bodoli`n barod | Wnewch cais ar y we (mewn ffenest newydd) | Lawrlwytho Cais |
ID: 11025 Adolygwyd: 28/8/2007
| Am rhagor o wybodaeth ffoniwch ni ar 01437 775710 neu llenwch ein enquiry form (bydd hwn yn cael ei drin gan ein Ganolfan Gyswllt Cwsmer) | ||