Microsglodyn ar gyfer eich Ci
Er nad yw'n ofyniad cyfreithiol ar hyn o bryd i gael microsglodyn ar gyfer eich ci, fe'ch argymhellir chi'n gryf i wneud hyn gan y bydd yn galluogi wardeniaid cŵn i ddychwelyd eich anifail anwes atoch ar unwaith petai'n cael ei ddarganfod ar grwydr.
Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol ei fod yn ofyniad cyfreithiol cael modd adnabod eich ci a sicrhau ei fod yn gwisgol coler a thag os yw i ffwrdd o'ch cartref.
Mae'n fantais gosod microsglodyn gan ei fod yno am byth, lle mae'n hawdd colli coler neu dag, neu eu tynnu i ffwrdd.
Sut Gallaf Gael Microsglodyn Ar Gyfer Fy Nghi?
Mae'r Cyngor ochr yn ochr â'r Ymddiriedolaeth Cŵn yn trefnu clinigau ar gyfer gosod microsglodion, yn aml mewn ymateb i alw lleol a welwyd neu i broblemau â chŵn crwydr mewn ardal benodol.
Er mwyn gweld pa gynlluniau sydd ar gael ar hyn o bryd cysylltwch â'r Gwasanaeth Rheoli Cŵn ar 01437 764551 neu ar-lein ar dogcontrol@pembrokeshire.gov.uk.
Dyletswydd Gofal Deddf Lles Anifeiliaid 2001
Mae Adran 9 o'r Ddeddf uchod yn cynnwys darparu pum "rhyddid" mewn perthynas â lles anifeiliaid, sef:
- Amgylchedd addas
- Diet addas
- Arddangos patrymau ymddygiad arferol
- Cyfeillach
- Diogelwch rhag poen, dioddefaint, niwed ac afiechyd
Ysbaddu
Mae ysbaddu'n ddull effeithiol o osgoi torllwythi o gŵn bach digroeso ac mae'n llwyddo i atal tueddiad cŵn o grwydro yn enwedig os oew cŵn yn eu gwres mewn ardal benodol.
Fel yn achos microsglodion, nid yw ysbaddu ar gael fel mater o drefn a'r ffordd orau o gael gwybod am y gwasanaeth ar unrhyw adeg benodol yw cysylltu â'r Gwasanaeth Rheoli Cŵn ar 01437 764551 neu ar-lein ar dogcontrol@pembrokeshire.gov.uk.
Dyletswydd Gofal Deddf Lles Anifeiliaid 2006
Mae Adran 9 o'r Ddeddf uchod yn cynnwys darparu pump "rhyddid" mewn perthynas â lles anifeiliaid, sef:
- Amgylchedd addas
- Diet addas
- Arddangos patrymau ymddygiad arferol
- Cyfeillach
- Diogelwch rhag poen, dioddefaint, niwed ac afiechyd
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gydymffurfio'n llawn gyda'r gofynion hyn mewn perthynas â holl agweddau'r gwasanaeth rheoli cŵn.
ID:
20694
Adolygwyd:
22/7/2010



Mae Pont Cleddau ar agor i bob cerbyd ar hyn o bryd



