Gwahardd Oddi Ar Draethau Yn Yr Haf

Ein gwasanaethau A-Y:
Cliciwch y botwm chwarae i wrando ar y tudalen hwn

Gwahardd Oddi Ar Draethau Yn Yr Haf

Ar ba draethau dwi ddim i fod i fynd â'r ci am dro yn yr haf?

Mae cŵn wedi eu gwahardd oddi ar 10 traeth yn Sir Benfro rhwng y 1af Mai a'r 30ain Medi bob blwyddyn.

Mae mapiau manwl yn cael eu harddangos ar bob traeth sydd wedi ei nodi sy'n dangos y rhannau lle gellir neu ni ellir mynd â chŵn am dro yn ogystal ag ardaloedd ar dennyn yn unig. 

Hefyd gellir dod o hyd i fapiau manwl ar ein gwefan 'Pets on Holiday': wwwpetsonholidaycom (Mewn ffenest newydd).

Mae gwaharddiadau rhannol gyda'r traethau hyn: -

  • Lydstep
  • Porth Niwgwl a'r Promenâd
  • Traeth Saundersfoot a'r promenâd
  • Traeth y Castell a Thraeth y De - Dinbych-y-pysgod
  • Traeth Llanrhath a'r Promenâd
  • Traeth Poppit
  • Aberllydan - Gogledd
  • Dale

Mae cŵn wedi eu gwahardd yn llwyr oddi ar y traethau hyn: -

  • Traeth y Gogledd - Dinbych-y-pysgod
  • Y Porth Mawr - Tyddewi

Mae'r Tîm Rheoli Cŵn ar y cyd â gweithwyr Hamdden yn gorfodi'r gwaharddiadau hyn drwy fisoedd yr haf. 


Pam na chaf fynd â'r ci am dro ar y traethau hyn?


Mae'r is-ddeddfau sy'n gwahardd cŵn oddi ar rannau o rai traethau yn bodoli'n bennaf i ddiogelu buddiannau ymdrochwyr yn ystod tymor yr haf.  Mae'r gwaharddiad mewn grym rhwng y 1af Mai tan y 30ain Medi. O'r 1af Hydref ymlaen bydd croeso eto i gŵn ar y traethau.  

Ei nod yw sicrhau diogelwch a phleser y mwyafrif a fyddai'n dymuno torheulo, nofio neu wneud gweithgareddau hamdden glan mor eraill ar y traeth






ID: 20423 Adolygwyd: 12/6/2012