Gwybodaeth am Dreth y Cyngor
Beth yw Treth y Cyngor?
Treth y Cyngor yw treth a gesglir ar bob eiddo domestig. Mae tua 58,000 o eiddo domestig yn Sir Benfro. Mae’r arian a gaiff ei godi gan y dreth yn cael ei ddefnyddio i ariannu’n rhannol y gwasanaethau y mae’r Cyngor yn eu darparu.
Am fwy o wybodaeth
- Sut y mae Treth y Cyngor yn cael ei chyfrifo
- Dewch o hyd i . . . Y swm sy’n ddyledus ar gyfer eich eiddo y flwyddyn ariannol hon
- Sut y mae eich arian yn cael ei wario
Pwy sy’n talu Treth y Cyngor?
Mae un bil Treth y Cyngor ar gyfer pob eiddo domestig. Fel arfer, y sawl sy’n byw yn yr eiddo sy’n gyfrifol am dalu’r bil.
Mae gwŷr a gwragedd, a phartneriaid sy’n byw gyda’i gilydd, ill dau yn gyfrifol am dalu’r bil.
Y sawl sydd ar frig, neu sydd agosaf at frig y rhestr ganlynol, sy’n gorfod talu’r bil:
• yn byw yn yr eiddo ac yn berchen arno
• yn byw yn yr eiddo ac sydd â phrydles (mae hyn yn cynnwys 'tenantiaid sicr' o dan Ddeddf Tai 1988)
•yn byw yn yr eiddo ac yn denant 'statudol' neu 'ddiogel'
• yn byw yn yr eiddo ond nid yn denant, ond wedi cael caniatâd i fyw yno
• yn byw yn yr eiddo (er enghraifft, sgwatiwr)
• y sawl sydd â phrydles chwe mis neu hirach, ond nid yn byw yno
• yn berchen ar yr eiddo, ond nid yn byw yno
Ni allwch fod yn gyfrifol am dalu’r bil os ydych chi o dan 18 mlwydd oed.
Os ydych chi’n dal i fod yn ansicr am dalu’r bil, cysylltwch â ni ar 01437 764551 neu ewch i un o’n Canolfannau Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Sut y mae Treth y Cyngor yn cael ei chyfrifo?
Mae pob eiddo domestig wedi cael eu prisio a’u gosod mewn ‘band prisio’. Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy’n gosod y band ar yr eiddo. Daeth rhestr brisio gyfredol Treth y Cyngor i rym ar 1 Ebrill 2005, ond mae’n seiliedig ar werth yr eiddo ar y farchnad ar 1 Ebrill 2003.
Mae’r band prisio yn pennu faint o Dreth y Cyngor rydych chi’n ei thalu. Mae’r tabl isod yn dangos y bandiau gwahanol.
Os oes gennych chi ymholiad am fand prisio eiddo, dylech gysylltu â’r
Prisiwr Dosbarth
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Adeiladau’r Llywodraeth
Teras Picton
Caerfyrddin
SA31 3BT
Ffôn: 01267 322200
Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Mewn ffenest newydd)
| Band prisio | Gwerth yr eiddo |
| A | Hyd at £44,000 |
| B | £44,001 - £65,000 |
| C | £65,001 - £91,000 |
| D | £91,001 - £123,000 |
| E | £123,001 - £162,000 |
| F | £162,001 - £223,000 |
| G | £223,001 - £324,000 |
| H | £324,001 - £424,000 |
| I | £424,001 + |
Cyfrifiad Treth y Cyngor 2013/14
Mae swm Treth y Cyngor rydych chi’n ei thalu yn dibynnu ar fand eich eiddo, a’r gyfradd a osodir gan yr Awdurdod Lleol.
Wrth edrych ar nifer yr anheddau ym mhob band prisio eiddo yn y Sir, a defnyddio’r gymhareb y nodir isod, mae’r Cyngor yn cyfrifo cyfradd sylfaen treth. Cyfradd treth Cyngor Sir Penfro ar gyfer 2013/14 yw 52,657.34
Mae’r dreth ar gyfer pob band, o ran gwariant y Cyngor Sir, gan gynnwys ardollau, ac archeb Awdurdod Heddlu Dyfed Powys o £10,862,156, yn cael ei ddangos isod:
| Band eiddo | A | B | C | D | E | F | G | H | I |
| Cyngor Sir Penfro (£) | 494.11 | 576.47 | 658.82 | 741.17 | 905.87 | 1070.58 | 1235.28 | 1482.34 | 1729.40 |
| Awdurdod Heddlu Dyfed Powys (£) | 137.52 | 160.44 | 183.36 | 206.28 | 252.12 | 297.96 | 343.80 | 412.56 | 481.32 |
| Cymarebau'r bandiau eiddo | 6/9 | 7/9 | 8/9 | 9/9 | 11/9 | 13/9 | 15/9 | 18/9 | 21/9 |
Sut y mae eich arian yn cael ei wario yn darparu gwybodaeth am sut y mae’r Cyngor yn defnyddio’r arian y mae’n codi trwy Dreth y Cyngor.
Beth yw band Treth y Cyngor ar gyfer fy eiddo i?
Er mwyn darganfod y swm sy’n ddyledus ar gyfer eich eiddo chi y flwyddyn ariannol hon, defnyddiwch Dewch o hyd i (teipiwch eich cod post i mewn ac yna cliciwch ar yr eiddo rydych chi’n chwilio amdano).
Gellir dod o hyd i’r wybodaeth hon ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Mewn ffenest newydd)
.
ID:
16417
Adolygwyd:
27/2/2013



Mae Pont Cleddau ar agor i bob cerbyd ar hyn o bryd



